Astudiaethau ôl-raddedig yn Gymraeg ac yn ddwyieithog
Mae pob un o brifysgolion Cymru yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig Cymraeg neu ddwyieithog.
Dyma gyfle i ti ddyfnhau dy ddealltwriaeth o dy bwnc a datblygu sgiliau a fydd yn dy helpu yn dy yrfa.
Doethuriaeth
Mae’n bosib gwneud PhD yn Gymraeg neu’n ddwyieithog mewn bron unrhyw bwnc ym mhrifysgolion Cymru.
Yr Haul, canu gwerin, gronynnau nano, datblygu economaidd... dyma rai o’r pethau y mae myfyrwyr PhD cyfrwng Cymraeg yn eu hymchwilio ar hyn o bryd.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi arian i fyfyrwyr i ddilyn PhD drwy’r cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil. Mae’r Coleg yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant o safon uchel i ymchwilwyr newydd hefyd.
Os hoffet ti wneud ymchwil a dod yn arbenigwr yn dy faes, gelli di gael mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn fan hyn.
Addysg Gychwynnol Athrawon
Wyt ti eisiau defnyddio dy arbenigedd a dy frwdfrydedd am dy bwnc i ddysgu’r genhedlaeth nesaf?
Mae cyfleoedd ar draws Cymru i hyfforddi fel athro drwy'r cwrs ôl-raddedig Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR/PGCE). Cwrs blwyddyn yw hwn.
Hefyd, os hoffet ti wneud y cwrs yn rhan amser, neu tra dy fod ti’n gweithio, mae’n bosib gwneud hynny dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar gael, a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ym mhob sefydliad sy’n cynnig cwrs TAR.
Bydd dy sgiliau dwyieithog yn fantais enfawr wrth chwilio am swydd.
Cwrs Meistr
Mae cwrs meistr yn rhoi cyfle i ti arbenigo yn dy bwnc a datblygu sgiliau uwch. Edrycha ar wefan y brifysgol sydd o ddiddordeb i ti, i gael gwybodaeth am y cyrsiau meistr sydd ar gael.
Mae rhai cyrsiau meistr sy’n hyfforddi myfyrwyr ar gyfer galwedigaeth benodol, fel MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ac MA Gwaith Cymdeithasol, ar gael yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.