Skip to main content Skip to footer

Prentisiaeth

Y Gymraeg yn y byd gwaith

Pam mae defnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith yn bwysig?

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru - os wyt ti’n rhugl neu os mai dim ond gair neu ddau sydd gen ti. 

Bydd gallu siarad Cymraeg a Saesneg o help mawr i ti yn y dyfodol. 

Mae siarad Cymraeg yn agor drysau i ti;

  • Bydd mwy o gyfleoedd i ti wneud ffrindiau ac i gymdeithasu os wnei di siarad Cymraeg 
  • Wrth siarad Cymraeg a Saesneg, fe alli di fod yn rhan o ddau ddiwylliant 
  • Wrth siarad Cymraeg, bydd mwy o swyddi ar gael i ti 
  • Dwy iaith – dwywaith y dewis 

Mae gen ti fantais – defnyddia dy Gymraeg

Chwilia am ddarparwr prentisiaethau

Wyt ti eisiau darganfod pwy sy’n cynnig prentisiaethau yn dy ardal di? Chwilia yma er mwyn dod o hyd iddyn nhw. 

map of Wales

Porth Adnoddau

Dysga am brofiadau prentisiaid Cymru wrth iddyn nhw ddysgu a gweithio yn y Gymraeg  

Mae Poppy yn annog eraill i ddilyn llwybr prentisiaeth

“Fel prentis Cymraeg, dwi wedi derbyn nifer o gyfleoedd, ac wedi bod yn agored i brofiadau sydd wedi bod o gymorth i mi. Mae hynny wedi fy helpu i gael swydd amser llawn gyda fy nghyflogwr, Cyngor Sir Gâr. Dwi nawr yn gweithio'n llawn amser fel cydlynydd digidol ar gyfer gwasanaeth plant a theuluoedd y cyngor.”  

Dere i gwrdd â Ceris, prentis Peirianneg Sifil Priffyrdd a Bwrdeistrefol 

“Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, es i i astudio Dylunio a Thechnoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roeddwn yn fanna am flwyddyn, ond penderfynais tuag at ddiwedd y flwyddyn nad hyn oedd y peth i mi. Felly, mi ddes i adref, a gwelais bod Cyngor Gwynedd yn cynnig cynllun prentisiaethau newydd, ac mi wnes i gais. Roedd hyn yn mynd i fod yn siawns wych i mi ail-ddechrau fy llwybr gyrfaol eto, ac rydw i wrth fy modd yma.” 

Ti... a ni

Wyt ti’n ein dilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol? Eisiau clywed mwy am waith y Coleg Cymraeg a beth mae’n gallu ei gynnig i ti? Dere i ymuno ‘da ni!