Skip to main content Skip to footer

Pyramid Iaith/Cynllun Gweithredu

Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr - Ein strategaeth ar gyfer prentisiaid a dysgwyr

Pyramid lefelau iaith

Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i greu mwy o unedau a chyrsiau yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid? Ry’n ni am i bawb deimlo’n hyderus yn defnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddyn nhw, ac felly ry’n ni am wneud yn siŵr ein bod yn cymryd pob cyfle posibl i ddatblygu sgiliau Cymraeg pob dysgwr a phrentis. Ry’n ni’n gwneud hyn drwy’r pyramid iaith, ac mae’r lefelau iaith gwahanol yn cael eu disgrifio isod. Er mwyn dysgu mwy am y strategaeth, gwyliwch yr animeiddiad isod. Mae copi o’r strategaeth yno hefyd.