Skip to main content Skip to footer

Porth Adnoddau

Porth Adnoddau

Mae Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lyfrgell ar-lein ar gyfer adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau ac addysg uwch.  

Yma gallwch ddod o hyd i'r holl adnoddau sydd wedi eu datblygu gan y Coleg Cymraeg. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i adnoddau gan y sefydliadau ry’n ni’n cydweithio â nhw e.e. colegau addysg bellach, prifysgolion a Llywodraeth Cymru.  

Mae’r Porth yn cynnwys amrywiaeth eang o adnoddau, fel cyflwyniadau, fideos, cyrisau byrion a recordiadau o weminarau a chynadleddau. Ei nod yw rhannu adnoddau sy’n gallu cael eu defnyddio gan athrawon a darlithwyr i gefnogi dysgu cyfunol. Mae’r adnoddau hefyd yn gallu cefnogi disgyblion ysgol, dysgwyr mewn colegau, prentisiaid a myfyrwyr prifysgol i barhau â’u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.  

Gwefan Porth Adnoddau

Adnoddau'r Porth