Skip to main content Skip to footer

Telerau ac Amodau

Datganiad Gwybodaeth am Hawlfraint a Nacáu Cyfrifoldeb

Mae’r Ymwadiad hwn yn berthnasol i holl ffeiliau gwefan(au) a/neu fewnrwyd a gyhoeddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (“y Coleg”) gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i *.colegcymraeg.ac.uk/*, *.porth.ac.uk/*,*.gwerddon.org/*.

Oni bai y nodir yn wahanol, y Coleg sydd berchen hawlfraint yr holl wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon, ac ni cheir ei hatgynhyrchu heb ganiatâd ymlaen llaw. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth ar y tudalennau hyn, ond yn naturiol y mae eu cynnwys yn agored i newidiadau. Ceidw'r Coleg yr hawl i wneud newidiadau i unrhyw wefan a reolir gan y Coleg heb unrhyw rybudd. Ni ellir dal y Coleg ynatebol mewn unrhyw amgylchiadau am niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth ar y tudalennau hyn.

 

Polisi Preifatrwydd a Gwarchod Data

Y mae'r Coleg yn Rheolwr Data Cofrestredig yn ôl diffiniad Deddf Gwarchod Data 2018. Caiff unrhyw fanylion personol a gesglir trwy'r wefan hon a'u darparu gennych chi eu prosesu yn unol â'r Ddeddf, a'u defnyddio yn unig i'r diben neu'r dibenion a nodir ar y dudalen berthnasol. 

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn parchu'ch preifatrwydd ac yn ymrwymedig i warchod eich data personol. Bydd y dudalen yma yn rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn gofalu am eich data personol ac yn dweud wrthych chi am eich hawliau preifatrwydd, a sut mae'r gyfraith yn eich amddiffyn chi.

Mae'r dogfennau isod yn esbonio eich hawliau ymhellach

Rhybudd Preifatrwydd Staff

Rhybudd Preifatrwydd Myfyrwyr

Gwefannau Allanol

Y mae'r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i wefannau allanol, a gwnaed rhai ohonynt gyda chaniatâd perchnogion y safle allanol. Nid yw’r Coleg yn gyfrifol am gynnwys nac ansawdd deunydd ar wefannau o'r fath nac ychwaith yn gyfrifol am sicrhau bod y deunydd ar gael. Ni ddylid cymryd bod cyswllt â safle allanol yn golygu bod y Coleg yn gefnogol i safbwyntiau a fynegir neu wasanaethau a gynigir gan y safleoedd hynny.