Skip to main content Skip to footer

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Sut mae cofrestru?

Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer y flwyddyn hon bellach ar gau. Bydd y gofrestr ar gyfer 2024/25 yn agor ym Medi 2024. 

Beth yw’r Dystysgrif Sgiliau Iaith?

Mae’r Dystysgrif yn rhoi tystiolaeth o lefel y sgiliau iaith yn y Gymraeg, a’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae’n cael ei gynnig drwy brifysgolion yng Nghymru, a sefydliadau partner e.e. Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mewn prifysgolion, mae’r Dystysgrif ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac i staff.

Er mwyn ennill y Dystysgrif, mae’n rhaid rhoi cyflwyniad llafar a chwblhau Prawf Ysgrifennu.

Mae mwy o wybodaeth am y Dystysgrif yn y Llawlyfr Ymgeiswyr isod.

circular graphic

Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg

Pa fath o gefnogaeth sydd ar gael i ti? 

Tiwtoriaid

Mae tiwtoriaid ar gael yn y prifysgolion a’r sefydliadau partner i roi cymorth i ti i baratoi am y Dystysgrif.  

Ar ôl cofrestru am y Dystysgrif, bydd tiwtor yn cysylltu â ti i drefnu’r sesiynau. 

Adnoddau Ar-lein

Os wyt ti eisiau help i baratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar a’r prawf ysgrifennu, cofia am yr adnoddau dysgu ar-lein. Mae hen bapurau, cyflwyniadau fideo a chanllawiau’r profion yno i dy helpu di.

Ymholiadau

Os wyt ti’n gwybod pwy yw’r tiwtor Cymraeg yn dy sefydliad, cer i ofyn iddyn nhw am ragor o wybodaeth.  

Os wyt ti mewn prifysgol, opsiwn arall yw cysylltu â Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.