Skip to main content Skip to footer

Addysg Gychwynnol Athrawon

Addysg Gychwynnol Athrawon

Wyt ti eisiau defnyddio dy arbenigedd a dy frwdfrydedd am dy bwnc i ddysgu’r genhedlaeth nesaf? Mae cyfleoedd ar draws Cymru i hyfforddi fel athro, drwy'r cwrs ôl-raddedig Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR/PGCE). Cwrs blwyddyn yw hwn. 

Hefyd, os hoffet ti wneud y cwrs yn rhan amser, neu tra dy fod ti’n gweithio, mae’n bosib gwneud hynny dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae rhaglenni cyfrwng Cymraeg ar gael, a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ym mhob sefydliad sy’n cynnig cwrs TAR. 

Ac mae amrywiaeth o grantiau i dy gefnogi wrth hyfforddi, gan gynnwys rhai ar gyfer astudio yn Gymraeg. Bydd dy sgiliau dwyieithog yn fantais enfawr wrth i ti chwilio am swydd. 

Cyrsiau

Mae cyfleoedd ar draws Cymru i hyfforddi fel athro os oes gen ti radd yn barod.  

Enw’r rhaglen yw'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR/PGCE), sy’n arwain at ennill ‘Statws Athro Cymwysedig’ (SAC/QTS). Mae’n rhaid ennill SAC i ddysgu mewn ysgolion yng Nghymru. 

Fel arfer, rwyt ti’n gwneud y cwrs yn llawn amser. Byddi di’n astudio yn y brifysgol rhan o’r amser hwnnw, a’r rhan arall mewn ysgolion.  

Ond, os hoffet ti wneud y cwrs yn rhan amser, neu tra dy fod ti’n gweithio, mae’n bosib gwneud hynny dros gyfnod o ddwy flynedd. 

Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu rhedeg gan bartneriaeth o brifysgolion, ysgolion a chonsortia rhanbarthol. Y Brifysgol Agored sy’n cynnig y cyrsiau rhan amser a'r rhai tra dy fod ti’n gweithio. 

Astudio yn Gymraeg

Mae cyrsiau TAR cyfrwng Cymraeg ar gael ledled Cymru. Ac mae pob un o’r partneriaethau sy’n cynnig TAR yn rhoi cefnogaeth i ti ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg fel rhan o dy gwrs. 

Bydd dy sgiliau dwyieithog yn help enfawr wrth i ti chwilio am swydd. Mae pob ardal, pob pwnc a phob sector ar draws Cymru angen rhagor o athrawon sydd â sgiliau iaith Gymraeg.  

Cofia hefyd ei bod hi’n bosib y bydd mwy o grantiau ar gael i ti os wyt ti’n dewis cwrs sy’n dy baratoi di i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu i ddysgu’r Gymraeg fel pwnc. 

Grantiau

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig tri grant gwahanol ar hyn o bryd sef: 

  • Iaith Athrawon Yfory: i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon ôl-raddedig uwchradd, sydd wedyn yn golygu eu bod nhw’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu Cymraeg fel pwnc.  
  • Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: i fyfyrwyr sy’n dilyn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon ôl-raddedig uwchradd mewn pwnc blaenoriaeth; cofia, mae’r pynciau hyn yn gallu newid o flwyddyn i flwyddyn. 
  • Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol: i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon ôl-raddedig lawn-amser neu ran-amser, gynradd neu uwchradd yng Nghymru ac uniaethu â myfyriwr o grŵp ethnig lleiafrifol.
Cynlluniau Mentora

Dysgu'r Dyfodol - cynllun mentora i fyfyrwyr sydd eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro

Mae Dysgu’r Dyfodol yn gynllun sy’n darparu mentor a phrofiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol a allai fod a diddordeb mewn gyrfa fel athro ysgol (pob pwnc yn gymwys heblaw myfyrwyr BA Addysg gyda SAC).

Cynllun mentora i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs TAR AHO (PcET PGCE) 

Mae Cynllun Mentora TAR AHO (PcET PGCE) yn gynllun sy’n darparu mentora i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol (TAR AHO / PcET PGCE) ar hyn o bryd ac yn siarad Cymraeg ac am ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.