Skip to main content Skip to footer

Ysgoloriaethau Ymchwil

Oeddet ti’n gwybod ei bod yn bosib gwneud Doethuriaeth (PhD) drwy gyfrwng y Gymraeg? 

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi arian i tua 10 myfyriwr PhD bob blwyddyn. Byddi di’n derbyn arian am dair blynedd wrth astudio ar gyfer doethuriaeth. 

Gelli di wneud ymchwil ar bob math o bynciau. 

Nod y cynllun yw datblygu ymchwilwyr o’r safon uchaf sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau Ymchwil yng nghanol mis Hydref bob blwyddyn, gyda’r dyddiad cau ar ddiwedd mis Ionawr. Bydd mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio yn y fan hyn, pan fydd y Coleg yn gwahodd ceisiadau. 

Prifysgolion sy'n gyfrifol am gyflwyno ceisiadau i'r Coleg Cymraeg. Os oes gen ti syniad am gwestiwn ymchwil ar gyfer PhD, cysyllta ag adran academaidd un o brifysgolion Cymru yn gyntaf i ddangos dy ddiddordeb. Gall Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg [linc mewnol] yn y brifysgol honno dy roi mewn cysylltiad â’r bobl iawn. 

Hefyd, edrycha ar wefannau prifysgolion Cymru yn ystod yr haf (Mai–Awst). Dyma pryd mae'r prifysgolion fel arfer yn hysbysebu am unigolion i ymuno â phrosiectau ymchwil sydd wedi’u cefnogi gan y Coleg Cymraeg, a lle y bydd Ysgoloriaeth Ymchwil ar gael. 

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil mewn unrhyw bwnc. 

Rhaid i o leiaf un o oruchwylwyr y prosiect ymchwil allu goruchwylio yn Gymraeg, felly mae’n bwysig bod gan yr adran staff fydd yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg. Ry’n ni eisiau datblygu arbenigwyr mewn pynciau lle y bydd angen staff mewn swyddi ymchwilio a darlithio yn y dyfodol. 

Os wyt ti’n llwyddianus, mae pwy bynnag sy’n derbyn Ysgoloriaeth Ymchwil yn cael nawdd am dair blynedd sydd o’r un gwerth ag ysgoloriaethau ôl-raddedig Cynghorau Ymchwil y DU (UKRI). 

Mae’r Coleg yn ariannu rhai Ysgoloriaethau Ymchwil yn llawn ac yn talu 100% o ffioedd dysgu a grant cynnal a chadw y myfyrwyr. Ry’n ni hefyd yn ariannu rhai Ysgoloriaethau Ymchwil ar y cyd gyda’r brifysgol neu sefydliad arall. Does dim disgwyl i fyfyrwyr dalu dros eu hunain. 

Ry’n ni hefyd yn rhoi hyd at £500 yn ychwanegol y flwyddyn i fyfyrwyr i helpu i dalu unrhyw gostau sy'n ymwneud â chynnal yr ymchwil, neu i dalu i fynd i gynadleddau. 

Mae myfyrwyr sy’n derbyn Ysgoloriaeth Ymchwil oddi wrth y Coleg yn cynnal yr ymchwil ac yn ysgrifennu eu traethawd PhD yn Gymraeg. 

Mae gofyn i fyfyrwyr sy’n derbyn Ysgoloriaeth Ymchwil sefyll Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg tra eu bod nhw’n fyfyriwr ymchwil yno. Mae’r Dystysgrif yn ffordd dda o wella sgiliau iaith ac o ennill cymhwyster ychwanegol. Mae’r Coleg yn cynnig adnoddau rhyngweithiol a sesiynau wyneb-yn-wyneb i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer asesiad y Dystysgrif. Mae’n syniad da hefyd i fyfyrwyr sydd am wella eu Cymraeg ddilyn cwrs hyfforddiant ffurfiol yn eu prifysgol. 

Dim ond myfyrwyr sydd am wneud doethuriaeth yn un o brifysgolion Cymru sy’n gallu derbyn Ysgoloriaeth Ymchwil. Ond mae’r Coleg eisiau i fyfyrwyr israddedig mewn prifysgolion y tu allan i Gymru ddod i un o brifysgolion Cymru i astudio tuag at ddoethuriaeth.  

Mae croeso cynnes i fyfyrwyr mewn prifysgolion y tu allan i Gymru ddod aton ni er mwyn cael yr holl gefnogaeth a chyfleoedd eraill y mae’r Coleg yn eu cynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig. 

Clicia ar y ddolen isod i ddysgu mwy am y Rhaglen Sgiliau Ymchwil a’r cyfleoedd hyfforddi a datblygu eraill sydd ar gael drwy’r Coleg Cymraeg i unrhyw siaradwyr Cymraeg sy’n gwneud ymchwil academaidd.

Cofia hefyd ein dilyn ni ar Twitter @olraddccc a chwilia am y Gymuned Ôl-radd ar Facebook.

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau i wneud PhD yn llawn amser neu’n rhan amser (0.5). 

Ry’n ni eisiau i fyfyrwyr ddechrau dysgu israddedigion yn ystod ail flwyddyn eu PhD. Bydd disgwyl i ti ddysgu hyd at 5 awr yr wythnos drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd at uchafswm o 60 awr y flwyddyn) drwy gynnal tiwtorialau neu arddangos mewn sesiynau labordy ac yn y blaen.

Hyfforddiant a chyfleoedd

Mae'r Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil yn cefnogi myfyrwyr ymchwil ac academyddion gyrfa gynnar cyfrwng Cymraeg. Cynhelir nifer o weithdai ar draws y flwyddyn. Darperir yr hyfforddiant sgiliau ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â phrifysgolion Cymru.

Mae’r hyfforddiant yn rhad ac am ddim, ac mae croeso mawr i bawb. Ymuna â chymuned ôl-raddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a manteisia ar y cyfleoedd sydd ar gael i ti. Ceir gwybodaeth lawn am y gweithdai unigol islaw.

Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil

Gwybodaeth ychwanegol i staff prifysgolion 

Mae gan bob prifysgol yr hawl i wneud hyd at bum cais am Ysgoloriaethau Ymchwil bob blwyddyn, ond dim mwy nag un o’r un ysgol/adran academaidd. Ar gyfer Ysgoloriaethau Ymchwil 50%, rhaid i’r brifysgol warantu gweddill y cyllid. 

Bydd cyfarwyddwr y Gymraeg yn y brifysgol neu’r swyddog cangen yn gallu cynghori ynglŷn â chynlluniau’r brifysgol ar gyfer y cylch nesaf o ddyfarniadau. 

Mae croeso i'r brifysgol gyflwyno enw ymgeisydd fel rhan o’r cais. Os nad oes enw ymgeisydd yn y cais, bydd rhaid i’r brifysgol hysbysebu’n agored am unigolyn i wneud y gwaith ymchwil os bydd y cais yn llwyddianus. 

Bydd panel yn dyfarnu’r Ysgoloriaethau Ymchwil yn seiliedig ar: y prosiect ymchwil arfaethedig, cyfraniad y prosiect tuag at amcanion y Coleg Cymraeg, profiad yr ysgol/adran wrth gyfarwyddo gwaith ymchwil a, lle ceir ymgeisydd, rhagoriaeth academaidd yr unigolyn. Mae’n bwysig iawn bod y cais yn rhoi sylw manwl i'r holl agweddau hyn. 

Bydd y telerau ac amodau llawn yn cael eu cyhoeddi fan hyn pan fydd y Coleg yn gwahodd ceisiadau am Ysgoloriaeth Ymchwil bob hydref.