Skip to main content Skip to footer

Cynllunio Academaidd 

Prif nod y Coleg o fewn y maes addysg uwch yw cynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac annog rhagor o fyfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.  

Mae modd gweld beth yw blaenoriaethau’r Coleg ar gyfer addysg uwch yn y Cynllun Academaidd. Yn y cynllun, mae’n nodi gweledigaeth y Coleg ar gyfer y pum i ddeng mlynedd nesaf, prif egwyddorion y cynllun, a sut y byddwn ni’n cyflawni ein nodau.  

Mae’r Coleg yn gweithio’n agos gyda’r prifysgolion a cholegau addysg bellach sy’n darparu cyrsiau addysg uwch, ac mae gan bob un ohonyn nhw strategaeth cyfrwng Cymraeg. Drwy gydweithio’n agos, ein gobaith ni fel sector yw gwneud cyfraniad o bwys i Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, a’r uchelgais o greu Miliwn o Siaradwyr a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.  

Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru

Yn ogystal â chynllunio ar gyfer cynyddu cyfleoedd astudio a niferoedd y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, mae’r Coleg hefyd yn darparu nifer o grantiau bob blwyddyn i gefnogi ein cynlluniau. Mae’r Coleg yn cefnogi darpariaeth drwy’r Grantiau Pynciol, Grantiau Sbarduno a Grantiau Rhyngddisgyblaethol. Gallwch chi weld amlinelliad o’r grantiau eraill y mae’r Coleg yn eu darparu drwy glicio ar y ddolen ganlynol.