Skip to main content Skip to footer

Grantiau 

Cronfa Datblygiadau Strategol y Coleg 

Oes gennych chi syniad arloesol a fyddai’n cyfoethogi ein darpariaeth i fyfyrwyr? 

Mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig cyfres o wahanol grantiau sy’n cefnogi mentrau arloesol a chreadigol. 

Mae rhai yn grantiau i unigolion ac eraill yn fentrau sydd ag elfen o gydweithio.   

Y Gronfa Gydweithredol 

Mae’r Gronfa hon ar gyfer darlithwyr sy’n awyddus i gydweithio â sefydliadau eraill sy’n darparu addysg uwch, er mwyn cyfoethogi profiad myfyrwyr.

Mae’r gronfa’n cefnogi dwy brif elfen, sef   

  1. modiwlau israddedig; a   
  2. gweithgareddau a chynadleddau.  

Gall hyn gynnwys gweithgareddau pontio neu weithgareddau sy’n cyfrannu at brofiad myfyrwyr presennol. Rydyn ni hefyd yn agored i geisiadau er mwyn cefnogi'r gwaith o gynnal cynadleddau.

Grantiau Bach  

A oes gennych chi brosiect unigol yr hoffech chi ei ddefnyddio i gyfoethogi’r ddarpariaeth addysg uwch o fewn eich sefydliad?  

A yw’n debygol o barhau am flwyddyn? A fyddai’n gallu arwain at gyhoeddi neu rannu arferion da?  
Mae’r Gronfa hon yn cefnogi mentrau arloesol a chreadigol gwerth hyd at £2,500 ac a fyddai, yn y pen draw, yn cyflawni’r amcanion uchod.   

Byddwn yn cyhoeddi o leiaf un cylch o grantiau bach fesul blwyddyn. Gall pob sefydliad gyflwyno hyd at bum cais.  

Grantiau Arloesi 

Mae’r gronfa hon yn edrych yn benodol ar ein darlithwyr cysylltiol, a’r bwriad yw creu mwy o gyfleoedd i gydweithio â sefydliadau addysgol y tu hwnt i Gymru. 

Gall ceisiadau gynnwys:  

  • mentrau arloesol,   
  • prosiectau addysg a/neu ymchwil,   
  • teithiau maes a rhannu arferion da a fydd, yn y pen draw, yn helaethu a/neu’n cyfoethogi'r ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.  

Mae modd cyflwyno ceisiadau gwerth hyd at £3,000 am brosiectau blwyddyn o hyd. Cysylltwch â Swyddogion Cangen y Coleg am fwy o wybodaeth am y grant hwn.