Eisiau lle gwych i gyhoeddi dy ymchwil am y tro cyntaf? Beth am ei gyhoeddi yn Gwerddon, sef cyfnodolyn ymchwil y Coleg.
Hyfforddiant a chyfleoedd i fyfyrwyr ôl-raddedig
Mae’r Coleg yn cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig i ddod yn ymchwilwyr o’r radd flaenaf ac yn eu paratoi i gystadlu am swyddi yn y byd academaidd a thu hwnt.
Mae ein holl gynlluniau yn agored i fyfyrwyr ôl-raddedig a staff gyrfa gynnar o bob prifysgol – yng Nghymru a thu hwnt! – beth bynnag yw dy bwnc a phwy bynnag sy’n dy gyllido.
Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil
Nod y Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil yw cefnogi myfyrwyr ymchwil ac academyddion gyrfa gynnar sy’n siarad Cymraeg.
Mae’r Rhaglen yn cynnwys nifer o gyrsiau wyneb-yn-wyneb, sesiynau ar-lein a chynhadledd ymchwil ryngddisgyblaethol flynyddol. Does dim cost i ti fynd i’r sesiynau hyn.
Os nad oes gen ti erthygl hir am dy waith ymchwil, beth am gynnig erthygl fer i Gwerddon Fach, ein blog ymchwil ar wefan newyddion Golwg360?
Os wyt ti eisiau tystiolaeth o dy allu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, beth am wneud y Dystysgrif Sgiliau Iaith?
Mae’r Dystysgrif yn agored i unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig ar unrhyw lefel. Bydd tiwtor ar gael i gynnig arweiniad a rhoi cefnogaeth.
Os wyt ti’n derbyn ysgoloriaeth PhD, bydd angen i ti wneud y Dystysgrif. Ac os wyt ti wedi ennill y Dystysgrif yn barod, mae tiwtor ar gael i gynnig cefnogaeth ieithyddol sydd wedi’i theilwra i dy anghenion unigol.
Cynhadledd ryngddisgyblaethol flynyddol sy'n gyfle gwych i fyfyrwyr ymchwil a staff rannu eu hymchwil yn Gymraeg a chyfarfod ag academyddion eraill.
Bydd Cynhadledd Ymchwil aml-ddisgyblaethol y Coleg ar 30 Mehefin 2023 yn Aberystwyth.