Skip to main content Skip to footer

Darlithwyr Cysylltiol

Darlithwyr Cysylltiol

Ydych chi’n ddarlithydd sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n awyddus i gyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg Cymraeg?   
 
Dewch i ymuno â chymuned weithgar Darlithwyr Cysylltiol y Coleg.   

Mae dros 600 o ddarlithwyr yn aelodau o’n Cynllun Darlithwyr Cysylltiol ac yn dysgu cyrsiau addysg uwch mewn prifysgolion neu golegau ym mhob cwr o’r wlad. Mae rhai o’n haelodau yn gweithio y tu allan i Gymru ac yn ymfalchio mewn bod yn rhan o gymuned darlithwyr cysylltiol y Coleg.   

Ymunwch â’r gymuned i gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau cyfrwng Cymraeg, a’r cyfleoedd sydd ar gael.  

Ffurflen ymaelodi

Gweminarau Dysgu ac Addysgu  

Drwy ddod yn Ddarlithydd Cysylltiol, gallwch ymuno â’n gweminarau ar-lein er mwyn dysgu arferion da gan ddarlithwyr o bob cwr o Gymru.  

Mae nifer o recordiadau o weminarau blaenorol ar gael yn y Porth Adnoddau.

Gwobrau  

Os hoffech chi gael eich enwebu gan eich prifysgol neu fyfyrwyr ar gyfer Gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg, dewch yn aelod o Gynllun Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg.  

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyfraniad a rhagoriaeth darlithwyr cysylltiol mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg.  

Grantiau 

Ry’n ni’n cynnig grantiau penodol i aelodau’r Cynllun Darlithwyr Cysylltiol. Mae’r rhain yn cefnogi mentrau arloesol a chreadigol ac yn arwain at gyfoethogi'r ddarpariaeth. 

Newyddlen   

Drwy ymuno â’n cynllun darlithwyr cysylltiol, fe gewch chi glywed am y datblygiadau cyfrwng Cymraeg diweddaraf gan ein cymuned weithgar o ddarlithwyr cysylltiol.