Skip to main content Skip to footer

Deintyddion Yfory

Beth yw cynllun Deintyddion Yfory?

Cynllun yw ‘Deintyddion Yfory’ lle ry’n ni’n trefnu gwahanol weithgareddau ar dy gyfer, i dy baratoi di ar gyfer gwneud cais am le ar gwrs Deintyddiaeth. 

Mae gweithgareddau’r cynllun yn cynnwys:

  • Cyfleoedd i gwrdd â phobl sy’n gweithio ym maes deintyddiaeth, a myfyrwyr sy’n astudio deintyddiaeth ar hyn o bryd, er mwyn clywed am eu profiadau nhw.
  • Datblygu dy ddeallwriaeth am y sector a'r math o sgiliau sydd eu hangen arnat ti i weithio
  • Datblygu sgiliau i dy helpu i wneud cais llwyddiannus.
  • Dy baratoi ar gyfer y broses gyfweld.

O fod yn rhan o'r cynllun bydd yr aelodau yn derbyn cefnogaeth arbenigol gan staff Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Caerdydd.Yn ychwanegol, o sicrhau presenoldeb o 70% ar gyfer yr holl sesiynau, bydd Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Caerdydd yn gwarantu cyfweliad. 

.

Cofrestru

Mae’r ffenestr i gofrestru ar y cynllun ar gyfer 2025 bellach ar gau. Bydd sesiynau eleni yn digwydd rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025.