Wyt ti am astudio cwrs iechyd yn y brifysgol?
Beth am gofrestru i fod yn rhan o gynllun Gweithwyr Iechyd Yfory?
Cynllun ydy ‘Gweithwyr Iechyd Yfory’ sydd wedi ei anelu at ddisgyblion blwyddyn 12 ac israddedigion, sydd am wneud cais i astudio pynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd, yn arbennig Bydwreigiaeth, Fferylliaeth, Therapi Iaith a Lleferydd a Ffisiotherapi.
Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth arbennigol gyda’r broses ymgeisio ac mae’r aelodau yn derbyn cefnogaeth arbenigol gan staff Prifysgolion Caerdydd/Abertawe/Met Caerdydd/Bangor/Wrecsam, yn ogystal â myfyrwyr cyfredol.
Ymaelodi â'r cynllun
Bydd y ffenestr i ymaelodi â’r cynllun yn agor ym mis Ionawr/Chwefror bob blwyddyn.
Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer 2024 bellach wedi cau.
Gweler islaw, manylion y sesiynau sy'n cael eu darparu eleni.
Sesiynau 2024: