Porth Adnoddau
Mae Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lyfrgell ar-lein sy'n llawn adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer staff a myfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion. Mae nifer o adnoddau yno hefyd i gefnogi rhai sy'n gwneud prentisiaethau.
Mae'r Porth yn cynnwys adnoddau sydd wedi eu datblygu gan y Coleg Cymraeg. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i adnoddau gan y sefydliadau ry’n ni’n cyd-weithio â nhw e.e. colegau addysg bellach, prifysgolion a Llywodraeth Cymru.
