Skip to main content Skip to footer

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Beth yw’r Dystysgrif Sgiliau Iaith?

Mae’r Dystysgrif yn rhoi tystiolaeth o lefel sgiliau iaith yn y Gymraeg, a’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Bydd ennill y Dystysgrif yn gymorth i ti wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol, trwy roi tystiolaeth gadarn  i ddangos i dy gyflogwr o dy allu i weithio yn y Gymraeg.

Mae dwy ran i'r Dystysgrif:

  • Cyflwyniad llafar
  • Prawf Ysgrifenedig

Er mwyn ennill y Dystysgrif, mae’n rhaid llwyddo yn y ddwy ran.

Mewn prifysgolion, mae’r Dystysgrif ar gael i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig ac i staff.

Mae’n cael ei chynnig drwy brifysgolion yng Nghymru, a sefydliadau partner e.e. Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Sut mae cofrestru?

Mae'r ffenestr ymgeisio ar agor nawr. Llenwa'r ffurflen berthnasol:

Manteision

circular graphic

Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg

Manylion pellach i ymgeiswyr

Graddau'r Dystysgrif

Mae pedwar canlyniad posibl ar gyfer y Dystysgrif:

  • Rhagoriaeth
  • Clod
  • Llwyddo
  • Methu

Fel arfer, y trothwy llwyddo fydd 50% ym mhob adran, sef y cyflwyniad llafar a'r prawf ysgrifenedig. Gall yr union drothwyon ar gyfer y gwahanol raddau newid wrth i'r asesiadau gael eu dyfarnu. Rhaid llwyddo yn y ddwy adran i ennill y Dystysgrif.

Sesiynau Dysgu

Bydd cyfle i ymgeiswyr fynd i sesiynau gyda thiwtor i baratoi ar gyfer y Cyflwyniad Llafar a’r Prawf Ysgrifenedig. Nid yw’r sesiynau’n orfodol, ond mae tystiolaeth o’r gorffennol yn awgrymu’n gryf bod mynd i’r sesiynau’n gymorth mawr i ymgeiswyr y Dystysgrif wrth iddynt baratoi ar gyfer yr asesiadau. 

Mae gan bob sefydliad diwtor iaith ar gyfer y Dystysgrif. Ar ôl i'r cyfnod cofrestru gau, bydd tiwtoriaid yn cysylltu ag ymgeiswyr drwy e-bost gyda rhagor o wybodaeth ac i gadarnhau trefniadau.

Cynnwys y sesiynau – gall rhain amrywio rhwng gwahanol sefydliadau.

  1. SESIWN GYCHWYNNOL
    Sesiwn i bawb sydd wedi cofrestru i wneud y Dystysgrif i esbonio trefniadau'r asesiadau, a dangos y deunyddiau dysgu cefnogol sydd ar gael ar-lein.
  2. GWELLA'CH CYMRAEG
    Sesiwn gyffredinol ar ddatblygu sgiliau iaith, gan edrych ar y wallau cyffredin.
  3. YSGRIFENNU RHYDD
    Sesiwn ar bwysigrwydd cywirdeb iaith wrth ysgrifennu'n rhydd. Rhoddir sylw penodol i’r math o wallau nad yw Cysill yn eu codi, megis priod-ddulliau Saesneg yn Gymraeg ac ati.
  4. GOLYGU TESTUN
    Cyflwyniad ar sut i ddefnyddio Cysill/Cysgeir yn llwyddiannus (ac offer cywiro Microsoft Word os yw ar gael).
  5. CYFLWYNIADAU LLAFAR GRAENUS
    Sesiwn yn canolbwyntio ar sgiliau cyflwyno da a phwysigrwydd cywirdeb a chywair priodol. Bydd hefyd modd i chi drafod eich cyflwyniad mewn sesiwn unigol gyda’r tiwtor os ydych yn dymuno.
  6. SGILIAU TRAWSIEITHU
    Sesiwn ar drawsieithu, gyda phwyslais ar ddefnyddio Cysill i gywiro, brawddegu, a chyflwyno’n eglur.
  7. SESIWN ADOLYGU
    Sesiwn i baratoi at y prawf ysgrifenedig. Gall union deitl a chynnwys y sesiynau amrywio yn ôl y galw.
Yr Asesiadau

Y Cyflwyniad Llafar

Bydd disgwyl i ymgeiswyr gwblhau eu cyflwyniadau llafar ar-lein cyn canol mis Mawrth. Rhaid i bob ymgeisydd wneud cyflwyniad llafar a fydd yn para 7-8 munud yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar ei faes/ei maes astudiaeth. Dylair cyflwyniad fod yn addas i gynulleidfa o bobl nad ydynt yn arbenigwyr yn y maes hwnnw; hynny yw, dylid sicrhau bod y cyflwyniad yn ddealladwy i rywun sy’n anghyfarwydd â’r pwnc dan sylw.

Y Prawf Ysgrifenedig

Bydd prawf ysgrifenedig y Dystysgrif yn cael ei gynnal ar gyfrifiadur ym mis Mai ar gampws bob prifysgol. Hyd y prawf fydd awr a hanner. Bydd tair tasg i’w cwblhau yn y prawf ysgrifenedig.

 

Cymedroli a chanlyniadau

Bydd CBAC yn sicrhau bod arholwr allanol yn gwylio pob cyflwyniad llafar yn fyw ar-lein, ynghyd â'r tiwtor iaith, a bydd pob cyflwyniad yn cael ei recordio at ddibenion cymedroli. Bydd y Prif Arholwr yn cymedroli sampl o'r holl gyflwyniadau.

Bydd y papurau prawf yn cael eu marcio’n ddienw gan arholwyr cymwys wedi eu penodi gan CBAC.

Bydd ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau drwy e-bost gan y Coleg.

Ymholiadau

Os wyt ti’n gwybod pwy yw’r tiwtor Cymraeg yn dy sefydliad, galli di ofyn iddyn nhw am ragor o wybodaeth.  

Os wyt ti mewn prifysgol, opsiwn arall yw cysylltu â Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.