Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar ganfyddiadau traethawd ymchwil doethurol a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae acenion wedi mynnu sylw cyfryngau’r prif-lif ers adroddiad Guardian ar wahaniaethu ar sail acenion, neu accentism, yn y Deyrnas Unedig a daflodd olau ar brofiadau myfyrwyr o leoedd fel gogledd Lloegr ac Essex a gafodd eu trin yn llai ffafriol yn y Brifysgol ar sail eu hacenion.
Yn fwy diweddar, cafwyd erthyglau yn The Conversation yn trafod acenion yn ogystal. Un ar benderfyniad rhieni Rishi Sunak i’w yrru am wersi drama fel nad oedd o’n siarad Saesneg gyda dylanwad ei dreftadaeth Indiaidd, a’r llall ar ddiflaniad Cockney a Received Pronunciation (RP) ymysg pobl ifanc dwyrain Llundain, gyda Saesneg Tafwys (Estuary English) a Saesneg amlddiwylliannol Llundain (Multicultural London English) yn cymryd eu lle.
Mewn gwirionedd, digwyddodd rhywbeth tebyg iawn i’r Gymraeg yng Nghaerdydd gyda diflaniad y Wenhwyseg a ffurfiant tafodiaith newydd Cymraeg Caerdydd yn y brifddinas.
Daeth dyfodiad y cyfryngau Cymraeg yn y ddinas yn y 1960au a’r 1970au â swyddi wnaeth sefydlu dosbarth canol Cymraeg yn y ddinas a heidiasant yma o bob cwr o’r wlad. Denodd twf addysg Gymraeg hefyd deuluoedd di-Gymraeg i fynychu’r ysgolion Cymraeg ers Ysgol Bryntaf ym 1966 ac Ysgol Glantaf ym 1978 hyd heddiw.
Gyda’r ddau ffactor hwnnw, daeth arlliw unigryw i’r dafodiaith: yr ‘allan’ a’r ‘fyny’ gogledd-orllewinol ar un llaw, a’r ‘weithiau’ (ynganwyd yn debyg i “weithioi” [wɛi'θjɔi]) a’r ‘nhw’ (“niw” [nju:]) dan ddylanwad Saesneg ar y llaw arall. Tu hwnt i hynny, ceir dyfeisgarwch hefyd, gyda siaradwyr Cymraeg Caerdydd yn cynhyrchu’r ynganiad safonol ‘-au’ ar lafar fel nad yw’n gyffredin yn y tafodieithoedd mwy traddodiadol (a ddefnyddiant ‘-e’ neu ‘-a’).[i]
Mae’n debygol bod rhai siaradwyr Cymraeg Caerdydd yn gyfarwydd â phrofiadau o wahaniaethu ar sail acen, gyda’r acen yn aml yn destun gwawd sawl piwritan iaith dros y blynyddoedd oherwydd dylanwad y Saesneg arni a diffyg ‘cywirdeb’ ei siaradwyr. Yn anffodus i’r bobl hynny mae gwahanol ieithoedd yn dylanwadu ar ei gilydd erioed ac mae diffyg cywirdeb iaith lafar yn realiti i’r rhan fwyaf ohonom ni.
Efallai bod yr agweddau hyn yn prinhau bellach ond mae’n debyg iddynt arwain at stigmateiddio’r acen neu dafodiaith. Fy nghwestiwn i yw: lle mae Cymraeg Caerdydd i’w chlywed heddiw yn y Gymru gyfoes? Ydy hi wedi ei chyfyngu i ambell sioe gyda’r nos ar Radio Cymru? Neu wrth wylio Gwennan Harries yn trin a thrafod timau pêl droed Cymru llond llaw o weithiau’r flwyddyn ar S4C?
Yn Sweden, mae sawl gohebydd blaenllaw yn ymddangos ar y darlledwr cenedlaethol SVT/SR yn defnyddio tafodiaith newydd Swedeg Rinkeby. Ethnolect nad annhebyg i Saesneg amlddiwylliannol Llundain ydyw sy’n cael ei siarad yn ardal Rinkeby yn Stockholm lle mae 91.2% o’r boblogaeth yn fewnfudwyr.
Mae gan SVT bolisi yn eu llawlyfr sy’n datgan:
“Mae’r iaith a glywir ar SR yn adlewyrchu holl gymdeithas ieithyddol Sweden. Mae tafodieithoedd ac amrywiadau eraill, sydd wedi deillio o ieithoedd eraill, yn rhan o’r amrywiaeth ieithyddol sydd i’w chlywed yn Sweden. Mae ein cyd-weithwyr yn rhydd i ddefnyddio eu hiaith eu hunain cyn belled â’i fod yn ddealladwy”.
Yng Nghymru mae llawer o gyflwynwyr Newyddion S4C wedi eu geni a’u magu yng Nghaerdydd, ond nid ydyn nhw’n siarad â’r acen newydd nodweddiadol. Pam hynny, tybed?
Mae’n bosibl nad yw’r acen neu dafodiaith yn cael ei gweld fel un sy’n addas neu’n briodol i’w defnyddio yn y cyd-destun hwn oherwydd y stigma sy’n perthyn iddi. Mae cyflwynwyr neu ohebwyr newyddion yn tueddu i siarad ag acen neu dafodiaith fwy traddodiadol. Disgwylir bod mwy o fri yn perthyn i’r acenion Cymraeg traddodiadol o’u cymharu ag acen newydd fel Cymraeg Caerdydd.
Mae hyn yn codi cwestiwn arall ynglŷn ag amhriodoldeb Cymraeg Caerdydd tu hwnt i’r cyd-destun newyddion penodol y soniwyd amdani fel y nodwyd yn adroddiad y Guardian. Oes posib bod siaradwyr Cymraeg Caerdydd yn lleihau neu’n peidio defnyddio’r acen mewn rhai cyd-destunau, oherwydd bod y stigma sydd ynghlwm â’r acen yn arwain at deimlad y caiff ei siaradwyr eu trin yn llai ffafriol?
Byddai’n bosibl yn y pendraw bod y dafodiaith yn cael ei defnyddio mewn cyd-destunau penodol yn unig, er enghraifft, yn yr ysgol. Gelwir hyn yn diglossia.
Yn yr un modd â’r erthyglau prif-lif a gyflwynwyd ar ddechrau’r erthygl hon, mae’n debyg mai problem gymdeithasol sydd wrth wraidd y diffyg cynrychiolaeth i acen neu dafodiaith Cymraeg Caerdydd.
Da felly fyddai cynyddu’r gynrychiolaeth hyn ar raglenni’r cyfryngau Cymraeg fel y gwelir yn Sweden, yn enwedig gan ystyried y rôl chwaraeodd y diwydiant hwnnw wrth ffurfio’r dafodiaith newydd hon yng Nghaerdydd.
Byddai hyn yn medru dangos i siaradwyr Cymraeg Caerdydd ac unrhyw dafodieithoedd newydd eraill yng Nghymru bod lle iddynt mewn unrhyw gyd-destun ac nid dim ond yn yr ysgol neu fel person ifanc. Yn ei dro byddai gwella’r gynrychiolaeth hyn yn medru arwain at leihau’r stigma a’r amhriodoldeb sydd ynghlwm â Chymraeg Caerdydd a cheisio mynd i’r afael â phroblem fel gwahaniaethu ar sail acen.
Dr Ianto Gruffydd
Cydymaith Ymchwil mew Sosioieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd
[i] Cafodd rhai o’r nodweddion ieithyddol y cyfeiriwyd atynt yma eu dadansoddi yn fy nhraethawd doethuriaeth ‘Astudiaeth o amrywio ieithyddol yng nghyd-destun adfywio ieithyddol Cymraeg Caerdydd’, a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.