Skip to main content Skip to footer
15 Medi 2023

Blog Alice: Effaith dwyieithrwydd ar swyddogaeth weithredol

ADD ALT HERE

Dwi newydd orffen ym mlwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Gwyr ac wedi mwynhau bod yn lysgennad ysgol gyda'r Coleg Cymraeg! Dwi ar fin dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Seicoleg fel gradd ac yn edrych ymlaen yn fawr!

Fel Cymry Cymraeg ifanc, rydym ni’n rhan o 36% o boblogaeth ddwyieithog y DU. Ynghyd ag agor drysau i’r dyfodol, megis cynyddu cyflogadwyedd a chynyddu ymwybyddiaeth ddiwylliannol, gall ein dwyieithrwydd hefyd cynnig mantais wybyddol i ni trwy wella rhai swyddogaethau gweithredol. Mae swyddogaeth weithredol yn set o sgiliau gwybyddol sy'n arwain dysgu ac ymddygiad trwy  addasu ymddygiad i wneud nod yn fwy neu'n llai tebygol o gael ei gyflawni. Dyma sy’n caniatáu i ni gofio gwybodaeth, cynllunio a chwblhau tasgau. Felly, gall ddwyieithrwydd arwain at fyfyriwr mwy academaidd effeithlon!

Dyma 4 swyddogaeth weithredol lle gall fyfyrwyr dwyieithog rhagori.

1. SGILIAU NEWID TASG

Ym mywyd brifysgol, mae angen i fyfyrwyr gydbwyso nifer o gyfrifoldebau wahanol; mynychu darlithoedd, cymdeithasu, coginio, swyddi rhan amser a.y.b. Yn ffodus i fyfyrwyr dwyieithog, mae’r arfer o gyfnewid rhwng dwy iaith yn arwain at leihad cost newid tasg. Hynny yw, bydd person dwyieithog yn debygol o gyfnewid yn hyblyg rhwng setiau meddyliol amrywiol er mwyn ymaddasu yn gyflym ac yn effeithlon i sefyllfaoedd gwahanol.

2. COF AR WAITH

Cof ar waith sy’n caniatáu i ni ddal gwybodaeth yn ein meddwl am gyfnod byr a’i phrosesu. E.e. gall cof ar waith geiriol, sef ein gallu i gofio gwybodaeth sy'n cynnwys geiriau ysgrifenedig neu lafar, ein helpu i gofio gwybodaeth yr ydym wedi'i dysgu mewn dosbarth yn ystod arholiad.  Mae hyfedredd dwyieithog uwch yn gysylltiedig â gwell cof ar waith oherwydd bod angen i bobl ddwyieithog brosesu a rheoli dwy iaith yn gydamserol.

Ymennydd

3. RHEOLAETH ATALIOL

Rheolaeth ataliol yw’r gallu i atal stimwli sydd ddim yn effeithlon ar gyfer cyrraedd ein golau, e.e. defnyddir rheolaeth ataliol i atal yr ysfa i fynd ar ein ffônau wrth adolygu am arholiad. Awgryma ymchwilwyr fod y sgil gwybyddol yma yn gryfder i bobl ddwyieithog oherwydd pan gaiff un iaith ei siarad, caiff yr iaith arall ei atal.

4. HYBLYGRWYDD GWYBYDDOL

Dyma’r swyddogaeth weithredol sy’n galluogi ni i gyfnewid rhwng meddwl am ddau gysyniad gwahanol ac i feddwl am sawl gysyniad ar yr un pryd. Yn syml, rydym yn defnyddio hyblygrwydd gwybyddol i asesu’r un sefyllfa o sawl safbwynt trwy newid ein ffordd o feddwl. Mae hyblygrwydd gwybyddol yn allweddol ar gyfer sgiliau datrys problem. Mae pobl ddwyieithog yn fwy tebygol o fod yn rhan o ddau ddiwylliant gwahanol, ac mae’r mewnwelediad diwylliannol amrywiol yma yn arwain at well hyblygrwydd gwybyddol.

Yn sicr, gall ddewis cwrs gradd ddwyieithog caniatáu i chi barhau i fuddio o’r fantais wybyddol ddwyieithog sy’n allweddol ar gyfer lwyddiant academaidd.