Alpha ydw i a rwy'n fyfyrwraig ail flwyddyn PhD yn adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Cefais y cyfle eleni i gyflwyno papur yng Nghynhadledd Ymchwil blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 30 Mehefin. Daeth academyddion ac ymchwilwyr cyfrwng Cymraeg ynghyd yn Aberystwyth i rannu eu hymchwil ddiweddaraf gyda’r gymuned academaidd.
Roedd rhannu elfen o'm hymchwil ar lwyfan gydag eraill a derbyn cwestiynnau gan y gynulleidfa yn deimlad ac yn brofiad anygoel. Fe wnaeth i mi ystyried elfennau a phersbectifau nad oeddwn wedi eu hystyried cyn hynny, a byddaf nawr yn medru eu hymgorffori yn fy ngwaith wrth i mi barhau â’r ymchwil.
Heb os, roedd y profiad o gyflwyno yng nghynhadledd y Coleg yn arbennig, yn enwedig am fod yr awyrgylch mor gefnogol a chyfeillgar. Yn ogystal, roedd llwyth o bosteri a phapurau gan unigolion o brifysgolion amrywiol a oedd yn trafod ystod eang o bynciau, felly roedd yn gyfle i ddeall a dysgu am feysydd ymchwil eraill, a oedd yn hynod ddiddorol!
Hanes troseddol Abertawe
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar Lys Chwarter Abertawe rhwng 1891–1920 a’i nod yw dadansoddi’r troseddau a gyflawnwyd a’r troseddwyr amrywiol a ymddangosodd yn y llys er mwyn cael darlun o hanes troseddol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r prosiect felly’n astudiaeth gymdeithasol am fod modd cael darlun o gymdeithas Abertawe’r cyfnod drwy gyfrwng y ffynonellau cyfreithiol a ddefnyddir. Is-nod i’r ymchwil yw defnyddio’r ffynonellau craidd er mwyn dadansoddi’r defnydd o’r Gymraeg ac unrhyw elfennau diwylliannol-ieithyddol yn y llys, a hynny er mwyn cael darlun o sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn.
O ganlyniad, dyma oedd nod fy mhapur yn y gynhadledd eleni, sef rhoi mewnwelediad i’r broses o ymchwilio yn y maes hwn, cyn trafod ambell enghraifft o wrthdaro rhwng pobl o ddiwylliannau gwahanol, a amlygodd fod tensiynau diwylliannol-ieithyddol yn bodoli yng nghymdeithas Abertawe’r cyfnod.
Yn ogystal â’r profiad o gyflwyno yn y gynhadledd, mae’r Coleg hefyd yn cynnig llwyth o brofiadau a chyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr. Un enghraifft yw’r Rhaglen Sgiliau Ymchwil, sy’n cynnwys amrywiaeth helaeth o sesiynau hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ymchwil, er enghraifft sesiynau ysgrifennu academaidd; iechyd a lles; a hyfforddiant cyfathrebu ymchwil a oedd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gyfathrebu’ch ymchwil ar y teledu, ar y radio ac mewn erthyglau ar gyfer Gwerddon a Gwerddon Fach.
Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i ddatblygu’ch sgiliau rhyngbersonol yn ogystal â datblygu fel ymchwilydd, ond maent hefyd yn darparu’r cyfle i chi gwrdd â myfyrwyr ymchwil o brifysgolion eraill ac sy’n ymchwilio i drawstoriad eang o bynciau.
'Mae bod yn llysgennad y Coleg yn ffordd wych i ddatblygu'ch hyder'
Cyfle arall rwyf wedi manteisio arno gyda’r Coleg yw’r cynllun llysgenhadon. Roeddwn yn llysgennad israddedig yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ac rwyf bellach wedi bod yn llysgennad ôl-raddedig ers dwy flynedd. Dyma gyfle arbennig arall sy’n eich galluogi i gwrdd â myfyrwyr eraill ar draws Cymru a thu hwnt, ac wrth ymgymryd â thasgau amrywiol megis recordio podlediadau, gwneud ‘takeovers’ ar gyfryngau cymdeithasol y Coleg a gweithio ar stondin y Coleg yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n ffordd wych i ddatblygu’ch hyder a’ch sgiliau, a chael y cyfle i gydweithio gyda staff y Coleg a myfyrwyr eraill.
Fel llysgennad ôl-raddedig, rwyf wedi bod yn cyd-weithio gyda’n Swyddog Cangen ni ym Mhrifysgol Abertawe i geisio datblygu cymuned ôl-radd cyfrwng Cymraeg y brifysgol. Rydym wedi bod yn gwneud hyn drwy drefnu fforymau myfyrwyr ôl-radd sy’n gyfle i fyfyrwyr ôl-radd ddod at ei gilydd i leisio’u barn am eu profiadau fel myfyrwyr ôl-radd a chodi unrhyw bryderon sydd ganddynt, yn ogystal â chynnig y cyfle iddynt gwrdd â chyd-fyfyrwyr mewn awyrgylch anffurfiol a chymdeithasol. Roeddwn hefyd yn awyddus iawn i gydweithio gyda’n Swyddog Cangen i drefnu Symposiwm Ymchwil ar gyfer myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg y brifysgol, fel rhan o ddathliadau dengmlwyddiant Cangen Abertawe, a oedd eto’n gyfle i fyfyrwyr gyflwyno’u hymchwil a chwrdd ag eraill mewn awyrgylch cyfeillgar.
Heb amheuaeth felly, rwyf wedi derbyn llwyth o brofiadau hynod werthfawr gan y Coleg sydd wedi fy helpu i ddatblygu fel ymchwilydd ac sydd wedi datblygu fy sgiliau personol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl brofiadau hyn!
Am fwy o wybodaeth ar Gynhadledd Ymchwil 2023 a gynhaliwyd ar 30 Mehefin, ac i weld rhestr o'r holl gyflwynwyr a teitlau eu hymchwil yn llawn ewch i Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg