Skip to main content Skip to footer
6 Mai 2025

Blog Anais - Llysgennad

ADD ALT HERE

Fel Llysgennad Cymraeg rydym ni’n helpu allan gyda diwrnodau agored. Rydym yn siarad gyda myfyrwyr i weld os maen nhw wedi dod o ysgol Gymraeg ac eisiau parhau i weithio yn y Gymraeg, ac yn esbonio bod ganddyn nhw'r opsiwn i wneud hynny.

Rwy’n teimlo ers i mi fod yn Llysgennad fy mod wedi bod yn cymdeithasu â phobl, fy mod wedi magu hyder ac yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth siarad â phobl newydd.

O ganlyniad i gymryd rhan mewn diwrnodau agored a digwyddiadau i ddathlu dyddiadau pwysig yn y calendr Cymraeg, teimlaf fy mod wedi datblygu perthynas dda gyda staff Coleg Penybont, a hefyd fy mod i a Ffion, y Llysgennad arall ar gampws Penybont wedi datblygu cyfeillgarwch dda. Rydym ni'n gweithio'n dda gyda'n gilydd a rydw i'n gwybod os ydw i’n cael trafferth gydag unrhyw beth, gallaf fynd ati hi neu aelod o staff am gyngor, oherwydd maen nhw i gyd yn gefnogol iawn.

Credaf bod Llysgenhadon Cymraeg yn bwysig mewn diwrnodau agored oherwydd maen nhw’n gallu cefnogi a siarad â darpar fyfyrwyr, a rhoi sicrwydd iddyn nhw bod nhw’n gallu parhau i siarad Cymraeg yn y coleg, dathlu eu hunaniaeth a pheidio colli eu sgiliau.

Fe wnes i helpu mas gyda’r Wythnos Gymraeg yn y Coleg. Roeddwn i yn helpu gyda’r helfeydd trysor ar draws y campws, yn helpu myfyrwyr os nad oeddent yn deall y cliw yn yr helfa drysor, ac yn gwneud yn siŵr nad oedden nhw'n mynd ar goll. Mae'n bwysig cynnal digwyddiadau fel hyn oherwydd mae'n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ryngweithio gyda'u gilydd a dysgu am bethau gwahanol, fel yr iaith Gymraeg. Gwnaeth fy ffrind yr helfa drysor a dywedodd hi ei bod wedi mwynhau, a byddai diddordeb gyda hi i wneud rhywbeth fel hyn eto.

Rwy'n astudio celfyddydau perfformio, ac ar fy nghwrs mae gen i'r opsiwn i ddarllen llinellau yn y Gymraeg a gwneud fy ngwaith ysgrifenedig a llafar yn Gymraeg. Fe wnaethom ni berfformio Sinderela, a fe wnaeth ein Swyddog Cymorth y Gymraeg, Sallyann fy helpu i ddweud fy llinellau yn Gymraeg. Mae hi'n gefnogol iawn, ac fe wnaeth hi gyfieithu fy llinellau gan eu gwneud yn haws i'w deall a'u cofio. Ar ein cwrs, dim ond dau ohonom ni sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Ar ôl coleg hoffwn fynd i'r brifysgol i astudio celfyddydau perfformio neu ddawns. Ar ôl y brifysgol hoffwn gael swydd naill ai fel dawnsiwr neu athrawes ddawns.