Skip to main content Skip to footer
4 Mehefin 2024

Blog Begw: ‘Gwirfoddoli yw’r ysgol brofiad orau erioed!’

ADD ALT HERE

Ydych chi yn anelu am fynd i'r brifysgol blwyddyn nesaf? Beth am ystyried gwirfoddoli yn eich cymuned? Mae gwirfoddoli yn ffordd syml iawn o ychwanegu profiadau i'ch CV/datganiad personol sy’n werthfawr iawn.

Fues i'n gwirfoddoli gyda CPD Nantlle Vale fel swyddog cyfryngau am bron iawn i bum mlynedd, ac yn wir roedd yr ysgol brofiad orau erioed.  Fe ges i wneud rhywbeth roeddwn yn mwynhau tra’n helpu fy nghlwb lleol a datblygu fy sgiliau. E.g cyfathrebu, trefnu gweithio mewn tîm.

Mae’r sgiliau yma yn hanfodol mewn unrhyw weithle swyddi. Nid yn unig y sgiliau y mae gwirfoddoli yn gyfle i chi gyfarfod pobol eraill o wahanol gefndiroedd. Does dim ‘time limit’ na gofynion gan bydd pob clwb yn gwerthfawrogi eich help. Yn ogystal ac helpu eich cymuned sy’n deimlad braf iawn.

Mae eich cymunedau yn llawn o glybiau fel chwaraeon, cerddoriaeth, drama, ffermwyr ifanc bydd yn ysu am eich cefnogaeth. Does dim rhaid i chi fod wedi bod yn aelod o’r clybiau yn flaenorol i helpu. Yn ogystal does dim rhaid i chi ymrwymo yn wythnosol, mae llawer o swyddi hawdd ar gael e.g bod ar giât ar ddiwrnod gêm i'ch clwb lleol. Fe gewch gyfle i sgwrsio a chyfarfod pobol newydd ac mae’n arwain i chi datblygu eich hyder.

Yn enwedig wrth dyfu fyny, wnes i sylweddoli pa mor werthfawr oedd y profiadau wrth drafod gyda chyflogwyr. Bydd cyflogwyr yn gwerthfawrogi eich bod wedi gwneud ymdrech i helpu eich cymuned ac ymestyn eich sgiliau.

Yn bennaf, erbyn heddiw mae ein clybiau yn dibynnu ar wirfoddolwyr/pwyllgorau a heb bobol arbennig fel rhain does dim posib cynnal cymunedau.

Peidiwch â bod ofn, cerwch amdani a cynigwch help!