Skip to main content Skip to footer
6 Mai 2025

Blog Calum - llysgennad

ADD ALT HERE

Helo fy enw i yw Calum a fi yw un o’r Llysgenhadon Cymraeg yng Ngholeg Penybont. Des i o ysgol Llanhari, a wedi dewis dod i gampws Pencoed i astudio TGCh, ac ar ôl hynny, dw i wedi dewis astudio Gwasanaethau Cyhoeddus am ddwy flynedd, a dw i nawr bron â gorffen fy mlwyddyn gyntaf.

Pan wnes i gais i fod yn lysgennad, doeddwn i ddim yn disgwyl clywed nol, ond yn meddwl y byddai'n braf rhoi cynnig arni, ac i fod yn deg doeddwn i ddim yn disgwyl iddyn nhw fy nerbyn i fel un! Ond peth braf oedd gweld fy mod wedi cael fy nerbyn, roeddwn i eisiau bod yn Llysgennad i gadw fy Nghymraeg yn fy mhen a peidio ei golli, a hefyd er mwyn i mi allu helpu'r Gymraeg o fewn y Coleg ac yng Nghymru.

Y peth cyntaf wnes i fel Llysgennad oedd taith i Brifysgol Aberystwyth oedd yn gymorth wrth ddod i adnabod llysgenhadon eraill, a deall fy rôl fel llysgennad yn well. Ers hynny, dw i wedi bod yn helpu mewn diwrnodau agored a digwyddiadau ar fy nghampws, sef Pencoed, tra bod hanner arall fy nhîm ar gampws Penybont. Meddyliais y byddwn yn cael trafferth cymryd rhan yn y diwrnodau agored gan nad wyf yn wych o ran cymdeithasu, ond roedd yn dipyn o hwyl ac roedd hi'n braf siarad â rhai pobl aeth i'r diwrnod agored oedd yn siarad Cymraeg.

Y digwyddiadau dwi wedi bod iddyn nhw fel Llysgennad oedd ffair ‘pop-up’ cebabs ffrwythau yn yr adrannau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon, er mwyn  lledaenu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, a datblygu sgiliau Cymraeg y myfyrwyr trwy roi byrbrydau iachus iddynt am ddim!

Y digwyddiad diweddaraf oedd ein dathliad Santes Dwynwen. Siaradais gyda pobl yno a helpu gyda’r weithgaredd o greu breichledi a helpais i ddarparu’r cwis ar ein stondin.

Mae’r flwyddyn yn hedfan, a dw i wedi mwynhau’r digwyddiadau amrywiol a bod yn Llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau cyn diwedd y flwyddyn academaidd, ac yn dymuno pob lwc i’r rhai sy’n dod ar fy ôl.

Mae hi wedi bod yn brofiad braf a byddwn yn argymell y cyfle i bawb, hyd yn oed os nad ydy eich Cymraeg chi yn wych, nid yw bod yn llysgennad yn gofyn i chi fod yn berffaith. Diolch am ddarllen fy mlog a gobeithio ei fod yn ddiddorol.