Gemma a Bedri: Cynllun Sbarduno
Mae Gemma wedi bod yn cynnal sesiynau mentora i Bedri fel rhan o’r Cynllun Sbarduno’r flwyddyn hon. Mae’r Cynllun Sbarduno yn gynllun ar gyfer siaradwyr Cymraeg Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Yng nghanol cyfnod prysur o waith a’r coleg addysg bellach, mae’r ddau yn myfyrio ar ei sesiynau mentora gyda’i gilydd, a’i amser ar y Cynllun Sbarduno. Felly dewch i gwrdd â Gemma a Bedri....
Mae fy mhrofiad gyda fy mentor wedi bod yn wych. Mae wedi fy nghefnogi ac wedi fy annog i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus.
Profiad Bedri gyda'r Cynllun Sbarduno
Pam wnes di ymuno gyda’r Cynllun Sbarduno?
Wnes i ymuno gyda’r Cynllun Sbarduno oherwydd fy mod i eisiau datblygu fy sgiliau yn y Gymraeg a chael mwy o hyder wrth ei defnyddio yn fy astudiaethau a bywyd bob dydd. Hefyd, roedd y cyfle i dderbyn cefnogaeth gan fentor yn apelio ataf.
Sut brofiad wyt ti wedi cael gyda dy fentor?
Mae fy mhrofiad gyda fy mentor wedi bod yn wych. Mae wedi fy nghefnogi ac wedi fy annog i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus. Hefyd, rwyf wedi dysgu llawer am wahanol gyfleoedd sydd ar gael i bobl sy’n siarad Cymraeg.
Pam fod y Cynllun Sbarduno yn bwysig?
Mae’r Cynllun Sbarduno yn bwysig oherwydd ei fod yn helpu dysgwyr i feithrin eu sgiliau iaith ac yn cynnig cefnogaeth bersonol trwy fentora. Mae hefyd yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy ymarferol mewn sefyllfaoedd dyddiol ac yn helpu i sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu.
Sut mae’r cynllun wedi dy annog di i ddefnyddio’r Gymraeg yn y dyfodol?
Mae’r cynllun wedi fy ysbrydoli i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus, nid yn unig yn yr ysgol ond hefyd yn fy mywyd cymdeithasol ac yn y gweithle yn y dyfodol. Mae hefyd wedi dangos i mi fod llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol feysydd.
Profiad Gemma o fod yn fentor ar y cynllun
Pam ymuno gyda’r cynllun sbarduno fel mentor?
I cynnig cymorth i ddisgyblion trwy gyfrwng y gymraeg. Rydw i yn deall sut mae disgybl sydd yn siarad cymraeg a sydd yn yr ethnigrwydd lleiafrifol yn gallu teimlo. Buasai cynllun fel hwn wedi helpu fi yn fawr iawn, ac hoffwn meddwl bod y cyfle i creu perthynas gyda disgyblion i ehangu cyfleuoedd i allu siarad cymraeg yn gallu helpu hyder a cymhelliant.
Sut brofiad wyt ti wedi cael fel mentor?
Rydw i wedi cael profiad mor positif. Rydw i wedi bod yn ffodus i fentora person sydd wedi cael nifer o brofiadau tebyg i mi, ac mae’r cyfle i allu trafod rhain wedi bod yn bythgofiadwy.
Pam fod cael modelau rol Du yn y Gymraeg yn bwysig?
Hynod o bwysig. Yn tyfu lan, llond llaw o bobl yn yr ysgol oedd yn du/asiaidd neu yn ethnig lleiafrifol. Yn aml byddai trafodaethau o gwmpas ti’n sefyll allan oherwydd….., ond y gwir yw, dylsai neb sefyll allan oherwydd ffactorau hil/cenedl. Yn ystod profiadau wahanol, rydw i wedi gorfod esbonio pam rydw i’n gallu siarad cymraeg, er fy mod yn dod o Sri-Lanka. Os oedd mwy o modelau rol ar gael, ni fyddai profiadau llai positif yn digwydd yng Nghymru.
Pa fath o gyngor wyt tin rhoi yn dy sessiynau mentora?
Rydym ni wedi bod yn ffodus i allu trafod popeth, o brofiadau wahanol i beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Mae wedi bod yn hyfryd bod yn rhan o broses aros am ymatebion prif ysgolion. Rydym wedi trafod sut mae bywyd fel myfyriwr yn y prif ysgolion, adolygu, rhannu ryseitiau wahanol a sut mae ymdopi yn y prif ysgol.
A fyddet ti wedi elwa o gael mentor pan roeddet ti’n ifanc?
Byddaf. Yn tyfu lan, yr unig pobl roeddwn i’n nabod oedd yn siarad cymraeg, oedd yr ethnigrwydd lleiafrifol yn yr ysgol. Mae cael plant fy hun yn gallu tyfu lan yn gwybod, tin brown, tin cymraes a chymro, ti’n siarad cymraeg yn rhugl ac rwyt tin gallu defnyddio’r iaith yn ddyddiol. Does dim ots ar dy cenedl/hil, nin ffodus I siarad cymraeg a does dim ots sut mae pobl arall yn meddwl. Byddai fod yn ymwybodol bod pobl tebyg i fi ar gael i siarad gyda, wedi rhoi lot o hyder a cymhelliant yn y gorffennol. Rwy’n gobeithio yn symud ymlaen, gallwn ni parhau i rhannu hyder gydag eraill.
Gwyliwch y fideo i glywed mwy am y Cynllun Sbarduno