Skip to main content Skip to footer
24 Chwefror 2026

Blog Dice – Tŷ’r Cyffredin

ADD ALT HERE

Dyma flog gan Dice sy’n ddysgwr yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot.

Ar y 6ed o Dachwedd 2025, es i i’r Tŷ’r Cyffredin yn Llundain fel Aelod o Senedd Ieuenctid y DU. Roedd y diwrnod yma yn un cyffrous i mi, mae’n brofiad gwych ac mae’n un o’r llefydd gall bobl ifanc ar draws y DU leisio ei barn.

Roedd yr eisteddiad yma yn bwysig gyda siaradwyr ac aelodau o’r Senedd Ieuenctid o Diriogaethau Dibynnol y Goron a Thiriogaethau Tramor yn bresennol.

Gadawodd y trên am 4.05 y bore! Gyda phrisiau’r gwestai yn Llundain yn ddrud oherwydd y tân gwyllt. Roedd y daith ar y trên yn dawel, gan gymryd tua 3 awr i ni gyrraedd Llundain. Ar ôl cyrraedd, roedd rhaid mynd ar y trenau tanddaearol i gyrraedd Neuadd San Steffan.

Roedd yna lawer o bobl yn y Neuadd, tua 300 o aelodau’r Senedd Ieuenctid, yr holl weithwyr cymorth a gweithwyr y Tŷ’r Cyffredin. Cawsom y cyfle i siarad â rhai sy’n gweithio yn Nhŷ’r Cyffredin gan gynnwys Sir Lindsay Hoyle, siaradwr Tŷ’r Cyffredin.

Roedd dwy ran i’r eisteddiad, gyda thua saith eitem ar yr agenda. Cawsom ni’r cyfle i weld y siambr yn ystod y sesiwn bore, gan glywed areithiau am Ddydd y Cofio a rhyfeloedd ein hanes. Roedd yr areithiau yn rai pwerus. Roedd y ddadl gyntaf yn ffocysu ar y siaradwyr o Diriogaethau Dibynnol y Goron a’r Tiriogaethau Tramor, gan drafod addysg ac iechyd Meddwl, wnes i hoffi clywed pobl arall yn siarad am y pethau sy’n eu poeni.

Roedd dadl gyntaf y Senedd Ieuenctid yn sôn am dai, gan ffocysu ar gostau byw, ansawdd tai cyngor a’r broses o dderbyn cefnogaeth.

Ar ôl y sesiwn bore, cawsom ni frechdanau i ginio. Roeddem yn trafod iechyd yn ystod y sesiwn brynhawn. Dyma’r eitem yr oeddwn eisiau ei drafod fwyaf, roeddwn yn lwcus oherwydd cefais fy newis i siarad am iechyd yng Nghymru. Roeddwn yn nerfus wrth siarad, ond wnes i fwynhau’r profiad. Ar ôl y ddadl dros iechyd roedd hefyd trafodaethau am drosedd, cyflogaeth a chynaliadwyedd.

Roedd y trên nol i Gymru yn brysur iawn. Ar ôl yr eisteddiad, roedd rhai yn feirniadol ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd rhai sylwadau cas oherwydd bod gan rhai ohonom wallt lliwgar. Ond yn dilyn siarad gydag eraill sy’n cael yr un math o driniaeth teimlais gefnogaeth. Wnes i fwynhau’r diwrnod.