Skip to main content Skip to footer
18 Mai 2023

Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, yn rhannu ei phrofiad o gynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

ADD ALT HERE

Roedd yn bleser mynychu cynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac i gael y cyfle i siarad â staff yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau. Fe wnes wir fwynhau’r profiad a chael y cyfle i siarad a  unigolion o sefydliadau ar hyd a lled Cymru. Roedd yn wych gweld cymaint yno, a phawb yn rhannu’r dyhead i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol.

Pwysigrwydd y sector ôl-orfodol yng nghyd-destun strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru

Ers cychwyn fel Comisiynydd, rwyf wedi ei gwneud yn glir bod diddordeb penodol gen i mewn cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. Nhw yw dyfodol y Gymraeg wedi’r cyfan – a byddai’n dda i ni gyd geisio gweld y byd drwy lens pobl ifanc, a dechrau meddwl yn hir dymor am beth fyddai orau iddyn nhw.

Mae gan y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol rôl cwbl allweddol yn y cyd-destun uchod. Dyma’r cyfnod sy’n pontio addysg statudol a’r byd go iawn a byd gwaith. Mae’r sector felly yn cyfrannu mewn ffordd uniongyrchol iawn i’r nod o greu siaradwyr Cymraeg sydd am ddefnyddio’r iaith yn y tymor hirach. Dyma pam rwyf o’r farn bod y sector hwn yn gwbl ganolog i fy ngweledigaeth i fel Comisiynydd, ac yn ehangach na hynny i’r weledigaeth ranedig sydd gennym dros ddyfodol y Gymraeg.

Creu gweithlu a gweithleoedd Cymraeg

Erbyn hyn mae tua 125 o sefydliadau ar hyd a lled Cymru dan gyfundrefn Safonau’r Gymraeg, ac mae mwy ar y ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys rhai o sefydliadau cyhoeddus mwyaf Cymru a does dim cwestiwn bod y gyfundrefn safonau yn cynyddu’n sylweddol y galw am unigolion sy’n gallu gweithio yn ddwyieithog. Rhan allweddol o ddiwallu’r galw cynyddol hwn fydd sicrhau bod y sector addysg yn creu gweithlu gyda sgiliau Cymraeg digonol, a’u bod wedi’u dosbarthu yn strategol ar draws ac o fewn sefydliadau gwahanol.

Mae’r canolbwyntio yma ar greu gweithleoedd Cymraeg, a chynyddu defnydd y Gymraeg mewn gweithleoedd ac o fewn sefydliadau, yn faes amlwg lle mae fy ngwaith i fel Comisiynydd a gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn plethu. Mae’r maes hwn â’r potensial i arwain newidiadau arwyddocaol. Dwi’n grediniol y bod rhaid i ni fel sefydliad drio canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gennym y dylanwad mwyaf a’r gallu i yrru newidiadau arwyddocaol. Mae cynnal sgiliau a defnydd Cymraeg siaradwyr ar ôl iddynt adael y sector statudol yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd unigolion yn defnyddio’r Gymraeg yn ehangach. Mae cynyddu cyfleoedd i unigolion ddefnyddio’r iaith wrth weithio yn rhwym o gael dylanwad ar ganfyddiad pobl o bwysigrwydd yr iaith yn ogystal â’r cyfleoedd iddynt fagu hyder ieithyddol. Gallai hefyd effeithio ar ewyllys a gallu unigolion i ddefnyddio’r iaith pan fyddant yn magu eu plant eu hunain, neu yn gwneud penderfyniadau ynghylch cyfrwng iaith addysg eu plant. Mae’n rhan hynod bwysig o’r jig-so.

Polisi, deddfwriaeth a chefnogi twf addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

Yn amlwg, nid ar chwarae bach fyddwn ni’n gwireddu’r weledigaeth hon o ran cyfraniad y sector ôl-statudol i strategaeth Cymraeg 2050. Mi fydd cyflawni’r weledigaeth yn gofyn i’r Llywodraeth a sefydliadau perthnasol eraill ddefnyddio’u holl bwerau a’u hadnoddau er mwyn cefnogi gwaith y Coleg i ehangu darpariaeth ôl orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Mae’n hanfodol bod gweledigaeth a thargedau Llywodraeth Cymru ynghylch addysg a’r Gymraeg yn cael ei hintegreiddio’n llwyr i agendau polisi a deddfwriaeth addysg. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y sector ôl-orfodol, sy’n hanesyddol wedi derbyn llai o sylw strategol o gymharu â’r sector statudol. Does dim angen eich atgoffa fod sefydlu’r Coleg nol yn 2011 ac yn fwy diweddar y penderfyniad i ymestyn swyddogaeth y Coleg i gynnwys y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn drobwynt yn y cyd-destun hwn. Er hyn, mae’n amlwg bod yna dasg sylweddol yn parhau o’n blaenau ni.

Yn y cyd-destun hwn mae’n briodol iawn croesawu’r ffaith bod y gwaith o sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn prysuro. Mae’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn nodi mai un o ddyletswyddau strategol y comisiwn fydd hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg - ac mae’n bwysig pwysleisio mai nid yr egwyddor yw diwallu’r galw - ond bod dyletswydd ar y Comisiwn i annog y galw am addysg drydyddol a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi. Mae hyn yn rhoi gogwydd strategol gwahanol i waith y Comisiwn, ac yn adlewyrchu meddylfryd sy’n sail i gynllunio addysg Cymraeg a dwyieithog yn y sector statudol.

Y lle amlwg i gychwyn yn y cyd-destun yma wrth gwrs ydi’r cynlluniau uchelgeisiol sydd gan y Coleg ar gyfer y sectorau addysg bellach, uwch a phrentisiaethau, yn ogystal wrth gwrs a’r cynlluniau sy’n bodoli ymysg sefydliadau addysg uwch a phellach yng Nghymru. Mae cynllun strategol y coleg am y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â’r cynllun gweithredu ar gyfer y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn gosod gweledigaeth uchelgeisiol a chlodwiw. I wireddu’r weledigaeth fodd bynnag, mae’n hanfodol bod yr adnoddau a’r cyllid yn dilyn.  Mae’n afrealistig disgwyl bod parhau i fuddsoddi yn yr un modd a’r gorffennol ryw ffordd am arwain at ganlyniadau cwbl wahanol - mae rhaid i’r buddsoddiad adlewyrchu’r uchelgais a’r weledigaeth.

Hoffwn i ddiolch i’r Coleg eto am fy ngwadd i’r gynhadledd, ac am roi’r cyfle i mi drafod materion sy’n gwbl ganolog i fy ngwaith a’n ngweledigaeth fel Comisiynydd. Byddwch chi’n barod yn ymwybodol nad cyfrifoldeb un corff nac un sefydliad yn unig yw sicrhau cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg. Wrth weithio gyda’n gilydd i annog ein pobl ifanc, dysgwyr a siaradwr newydd, teuluoedd â phlant a siaradwyr Cymraeg o bob oed i fwynhau’r iaith a’u defnyddio bob cyfle posib, byddwn yn sicrhau ein bod gam yn nes at wireddu’r weledigaeth o Gymru lle gall pawb fyw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.