Elin ydw i, a dwi newydd orffen fy nghwrs Seicoleg (MSc) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mis Medi llynedd, doedd gennai ddim syniad beth i ddisgwyl; Cymraeg a Newyddiaduraeth oedd fy nghwrs isradd, felly cwrs hollol wahanol i’r cwrs meistr oedd o fy mlaen.
Er i mi astudio seicoleg yn y chweched dosbarth, roeddwn ychydig yn amheus cyn dechrau, gan fod dros dair blynedd wedi bod ers hynny.
Ond, atgof melys sydd gennai o’r wythnos groeso cael cyfarfod y myfyrwyr eraill, criw newydd o bobl, a dod i ddeall fod pawb yn teimlo’n debyg i mi ac yn yr un cwch, gyda phrin dim profiad o astudio seicoleg yn y gorffennol, gan mai cwrs trosi oedd hwn. Yn syth felly, roeddwn yn teimlo’n fwy cyfforddus yn y sefyllfa.
Mae’n rhaid i mi gyfaddef, roedd y gwaith yn drwm o’r eiliad gyntaf, felly mi wnaeth hynny gymryd ychydig o wythnosau i mi ddod i arfer. Roedd sawl gwaith cwrs ac asesiad trwy’r deuddeg mis, yn ogystal ag arholiadau ym mis Ionawr (doeddwn i heb sefyll arholiad ers y chweched dosbarth cyn hynny, felly roedd hynny’n sioc i’r system yn sicr!).
Ar ôl yr arholiadau, roedd rhaid yn syth dechrau ar y gwaith i fy mhrosiect ymchwil. Dyma gyfnod ychydig llai prysur o ran darlithoedd, ond prysur iawn o ran cyfarfodydd er mwyn trafod y gwaith ac ati. Mi wnes i fwynhau’r misoedd yma, gan ei fod yn gyfnod cyffrous o ymchwilio mewn i’r pwnc diddorol o faterion moesegol o fewn seicoleg.
Trwy’r deuddeg mis, roeddwn i hefyd yn gadeirydd ar Aelwyd y Waun Ddyfal – aelwyd i fyfyrwyr a phobl ifanc Caerdydd rhwng 18-25 mlwydd oed. Yn yr wythnosau cyntaf, roedd hi’n anodd i mi geisio ffeindio’r cydbwysedd iawn rhwng y cwrs meistr a’r aelwyd, ond, unwaith wnes i hynny, roedd yr aelwyd yn rhoi’r cyfle i mi gael seibiant o’r pwysau gwaith. Mi fyswn i’n annog pawb i ymuno â chymdeithas neu aelwyd wrth iddyn nhw ddechrau cwrs newydd, er mwyn rhoi’r cyfle i allu ymlacio o’r gwaith.
Rhan o’r cwrs wnaeth wir sefyll allan i mi oedd cael deuddeg wythnos o leoliad gwaith ym Mabilab Prifysgol Caerdydd rhwng mis Mai ac Awst. Dyma brofiad i mi fod yn gynorthwyydd ymchwil mewn tîm andros o gefnogol a brwdfrydig. Roedd y lab yn gwneud gwaith ymchwil ar ddatblygiad babis a phlant ifanc gyda Syndrom Down. Mi wnaeth y lleoliad gwaith rhoi’r cyfle i mi a dwy fyfyrwraig arall gael blas ar sut waith ydi bod yn ymchwilwyr yn y maes seicoleg, a theimlaf yn ffodus iawn fy mod i wedi cael y cyfle hwn i ddatblygu fel unigolyn, yn ogystal â datblygu sawl sgil gwerthfawr.
Wrth i mi edrych yn ôl felly, blwyddyn yn ddiweddarach, er roedd ambell her o fy mlaen, ar y cyfan, roedd fy nghyfnod ar y cwrs yn brofiad cyffrous a diddorol iawn. I unrhyw berson sy’n teimlo’n ansicr yn dechrau cwrs newydd, gwahanol, mi fyswn i’n dweud wir ewch amdani!