Gwerth astudio Meddygaeth a Deintyddiaeth drwy’r Gymraeg:
Os ydych yn mynychu ysgol Gymraeg mae’n weddol syml cael eich atgoffa i siarad Cymraeg gan fod pawb yno’n siarad yr iaith ond wrth fynd i brifysgolion nid oes cymaint. Ar y funud mae prinder mawr yn y byd meddygol a deintyddol yn enwedig rhai sy’n medru siarad Cymraeg felly mae’n cynnig cyfle da i ni fel y genhedlaeth nesaf defnyddio ein hiaith i’n mantais ni.
Wrth feddwl am fynd ymlaen i’r brifysgol mae llawer o feddyliau a phryderon yn gwibio drwy’ch meddwl ac un ohonynt yw gorfod gwneud ffrindiau newydd a bod mewn dosbarthiadau a darlithoedd enfawr. Felly drwy wneud faint bynnag rhan o’r cwrs sy’n bosib drwy gyfrwng y Gymraeg nid yw’r darlithoedd am fod mor fawr a gallwch ffurfio cyfeillgarwch gyda’ch cyd-ddisgyblion sydd mor frwdfrydig â chi am yr iaith Gymraeg.
Drwy astudio drwy’r Gymraeg mae’n agor llawer o ddrysau ar gyfer swyddi gan fod llawer yn edrych am bobl sy’n medru siarad Cymraeg. Mae siarad Cymraeg tra’n cynnig gwasanaethau meddygol yn gysur i lawer o bobl, yn enwedig yr henoed a’r ieuenctid. Y rheswm am hyn yw oherwydd mae cyflyrau fel Dementia a.y.y.b yn medru cael effaith mawr ar eu hiechyd meddwl ac weithiau mae cael gwasanaeth sydd, fel arall yn bryderus, drwy eu mamiaith yn gysur. Yn debyg nid yw plant ifanc yn gwbl gyffyrddus efo ail-ieithodd ac eto mae mynd at y deintydd neu ysbyty yn medru bod yn ofnus ac felly mae cael esbonio’r holl broses drwy eu hiaith gyntaf yn cynnig ychydig o gysur iddynt ac yn eu gwneud mwy tebygol o ymddiried ynoch chi.
Felly, os ydych chi’n astudio pynciau ysgol drwy’r cyfrwng Gymraeg yn yr ysgol ar hyn o bryd ac yn meddwl am fynd i’r brifysgol i astudio meddygaeth neu ddeintyddiaeth mae’n syniad da meddwl am wneud faint bynnag rydych chi'n gallu drwy cyfrwng y Gymraeg. Gall llawer o gyfleoedd gwahanol flaguro o’r dewis yma sydd am fod yn werthfawr iawn i’ch dyfodol ac er mwyn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw!