Skip to main content Skip to footer
24 Medi 2024

Blog Ella

ADD ALT HERE

Dros y flwyddyn diwethaf dwi wedi cael y cyfle i fod yn lysgennad ysgol yn Bryn Tawe. Mae’r Coleg wedi rhoi y cyfle ardderchog imi fod yn lysgennad ysgol 2023-24. Dwi wedi mwynhau’r cyfle yma yn fawr iawn.

Dwi wedi cael cyfle i sgwennu blogiau, gweithio yn yr Eisteddfod, gwneud cyflwyniadau, fideos, creu hysbysfwrdd y Coleg yn yr ysgol a llawer mwy.

Dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ar draws Cymru cyfan ac yn cadw cyswllt gyda nhw yn amal!

Os wyt ti’n ystyried gwneud cais flwyddyn yma byddwn yn argymell yn fawr ichi wneud.

Mae’r agor drysau i chi yn enwedig os ydych yn edrych i gael swydd drwy’r Gymraeg yn y dyfodol.

Mae’n ffordd dda o ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol!

Does dim byd i’w golli! Cer amdani!

Fi a Megan yn cwrdd yn Eisteddfod yr Urdd a fi yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf