Skip to main content Skip to footer
22 Gorffennaf 2024

Blog Elliw Llysgennad Ysgol

ADD ALT HERE

Pwysigrwydd y sector amaethyddol ar yr iaith Gymraeg. 

 

Haia! Elliw dwi, a dwi newydd orffen blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Dwi wedi mwynhau'r cyfleoedd oedd yn dod gyda'r dyletswydd o fod yn lysgennad ysgol gyda'r Coleg Cymraeg!

Cefais fy magu ar fferm odro ac wrth i mi nawr fynychu digwyddiadau cenedlaethol amaethyddol, rwyn sylweddoli mwy mwy ar bwysigrwydd y sector amaeth ar yr iaith. 

 

Rwyf am gyflwyno 3 pwynt ichi ar pam dwi’n credu fod y sector amaethyddol yn hanfodol bwysig i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw yng nghefn gwlad Cymru. 

 

1.

Dwi’n cynrychioli Ynys Môn yng nghyfarfodydd Fforwm ieuenctid Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru sydd yn cydlynnu o dan y NFYFC (National Federation of Young Farmers’ Club), sy’n gweithio dros y Cymru a Lloegr. Wrth eistedd ar bwyllgor cenhedlaethol, rwyf yn sylweddoli fod mewnbwn CFfI Cymru i’r NFYFC yr union mor bwysig a mewnbwn unrhyw wlad arall, ac yn dod law yn llaw hefo CFfI Cymru, mae’r iaith Gymraeg yng nghefn gwlad Cymru.

Dyma un o ychydig fudiadau ieuenctid dros Gymru sy’n cyd-weithio gyda gweddill y DU ac hyd yn oed ymhellach, ac sy’n sicrhau llwyfan i’r iaith ynghyd a dangos pwysigrwydd yr iaith i’r wlad a’i phobl. 

 

2.

Mae ffermwyr Cymru yn hyrwyddwyr ac amddiffynwyr allweddol o ddiwylliant, treftadaeth ac iaith y Cymry gyda’r diwydiant amaethyddol yn cynnwys y gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o unrhyw sector. Wrth i ffermwyr Cymru barhau i gynnal y tirwedd yng Nghymru, maent hefyd yn parhau i gynnal traddodiadau diwylliannol, gan gadw ein treftadaeth a’n hymdeimlad o le ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Un o’r traddodiadau hyn sy’n rhoi synnwyr o bwrpas, hunaniaeth a pherthyn i’r Cymry yw cerddoriaeth, canu a chorau. Mae treftadaeth ddiwylliannol gref yn caniatáu i Gymru ddisgleirio ar lwyfan byd eang ac sydd wrth galon y Cymry ac does dim cynrychiolaeth ddiwylliannol cryfach o Gymru na chôr meibion. Mae llawer o'r grwpiau hyn yn cynnwys cynrychiolaeth gref o'r diwydiant ffermio sy'n siarad Cymraeg, gan gadw traddodiadau Cymru yn fyw a chryf.

Mae'r ffactor hwn yn gyfraniad gan ffermwyr Cymreig i Gymru o ddiwylliant bywiog a sicrhau fod y Gymraeg yng nghefn gwlad yn ffynnu.  

 

3.   

Y trydydd pwynt, a’r pwynt pwysicaf ar gyfer dyfodol y Gymraeg yn fy marn i, yw nifer y swyddi y mae’r sector amaethyddol yn eu darparu.

Mae pryder enfawr ynghylch nifer y swyddi sydd ar gael i bobl yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad, ac yn fy marn i, y sector amaethyddol yw un o’r sectorau cryfaf o ran darparu swyddi drwy gydol y flwyddyn.

Sut mae hyn yn effeithio ar y Gymraeg?

Wel, mae cadw pobl ifanc yng Nghymru yn gam anhygoel o bwysig oherwydd yr effeithiau hirdymor. Os yw’r unigolion hyn am gael eu denu i aros yng Nghymru yn y dyfodol agos drwy’r ddarpariaeth o swyddi, maent yn debygol o setlo lawr yma a dechrau teulu a chreu cynefin Cymreig. Bydd eu plant eisiau mynychu ysgolion Cymraeg a chwblhau eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen inni gydnabod mai pobl ifanc yw dyfodol y Gymraeg ac os methwn â’u cadw, bydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng yn sylweddol.

Yn ôl adroddiad Iaith y Pridd, mae tua 43% o’r bobl sy’n cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth yn siarad Cymraeg, sy’n fwy nag unrhyw ddiwydiant arall yng Nghymru! Tydi hyn ddim yn dystiolaeth cadarn fod dyfodol yr iaith Gymraeg yng nghefn gwlad Cymru yn ddibynnol ar y sector amaeth? 

 

 

Mae'r sector amaethyddol yn hanfodol bwysig i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw yng nghefn gwlad Cymru.