5 mlynedd ers twf protestiadau ‘Mae Bywydau Du o Bwys’ – beth nesaf?
Gan Joshua Romain ac Emily Pemberton
Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Joshua Romain, Prif Ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr 2025-26 ac aelod o Gynllun Sbarduno’r Coleg 2024-25
Emily
Mae’n teimlo petai’r byd wedi newid yn dilyn Haf 2020 – cyfnod o brotestiadau, sylw yn y wasg, a thrafodaethau cyhoeddus yn gofyn y cwestiwn: sut ydym yn gwaredu hiliaeth o fewn y gymdeithas?
Y broblem gyda’r cwestiwn yw’r angen i fynd yn ddyfnach. Yn hytrach na gofyn sut ydym yn gwaredu hiliaeth, rhaid gofyn a yw’n bosib yn y lle cyntaf.
Nid yw’r rhai ohonom sydd yn byw yn ein cornel bach ni o’r byd – Cymru – yn medru osgoi’r sgwrs. Ni ddylem chwaith. Mae’n bwysig cydnabod cyfraniad Cymru i’r problemau a’r datrysiadau sydd wedi deillio o’r hyn a welom yn 2020.
Fan hyn, mae’n teimlo fel petai’r sgwrs wedi symud ymlaen – mae gennym gynlluniau o’r Llywodraeth sydd yn amlinellu’r weledigaeth i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Cynllun uchelgeisiol i’w groesawu. Felly gyda phum mlynedd ar ôl tan i ni gyrraedd 2030 – ble mae pethau arni?
Mae’n ymddangos petai mwy o wybodaeth ar gael, neu mwy o ymwybyddiaeth, ond y ffordd o weld y newid yw mesur y gwahaniaeth mewn bywydau bob-dydd pobl Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Heb weld y newid, nid ydym yn gallu dweud bod cynnydd wedi bod. Mae’r her yn teimlo’n enfawr. Rwy’n gofyn, sut ydw i’n gallu gwneud gwahaniaeth?
Fy nghyfraniad bach i, ar lefel proffesiynol, yw cydlynu’r Cynllun Sbarduno, lle mae criw o bobl ifanc Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 16-18 oed yn cael eu mentora drwy’r Gymraeg, gan berson yn y ‘byd proffesiynol’. Rydym yn awyddus i ddatblygu’r criw o bobl ifanc i fod yn hyderus, uchelgeisiol, a chynnig profiad iddyn nhw sydd yn cyd-fynd â’r gwaith gwych mae eu hysgolion a cholegau yn gwneud i gefnogi’r bobl ifanc. Maen nhw’n mwynhau’r sesiynau, ymfalchïo yn y Gymraeg, a hyd yn oed yn gofyn i wneud mwy ar ôl gorffen(!).
Mae’r cyfnod wedi bod yn un arwyddocaol imi ar lefel broffesiynol a phersonol. Rwy’n ymddiddori’n fawr yn y pwnc, a heb os, mae fy rôl fel yr unigolyn sydd yn cydlynu gweithgareddau’r Coleg Cymraeg, gan gynnwys ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth, wedi bod yn un sydd yn fy annog i feddwl yn greadigol ac i ymddwyn ar frys, wrth weithio gyda staff sydd yn frwdfrydig i weld y gwaith yn parhau.
Byddwn i’n dweud mai’r brif her i bawb, ac i bob sefydliad, yw sicrhau bod pethau ar waith yn gyson i fyfyrio, ond datblygu ar yr un pryd. Mae’n fraint i weithio gyda chriw o bobl ifanc sydd yn fy annog i wneud hyn, a gweld nhw’n datblygu wrth dderbyn eu sesiynau mentora. Heb os, nhw fydd yn ein harwain yn y dyfodol, ac wrth i chi glywed wrth Joshua nawr fel un enghraifft, fel y gwelwch chi, fyddan nhw’n annhebygol o aros yn dawel ...
Joshua
Helo! Fy enw i yw Joshua ac rwyf yn ddisgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Wrth fod yn rhan o Gynllun Sbarduno'r Coleg Cymraeg rwyf wedi datblygu cyfoeth o sgiliau, gan gynnwys ysgrifennu erthyglau a blogiau fel yr un yma. Mae bod yn Ddu yn ganolog i fy hunaniaeth, ac mae fy mhrofiadau bywyd wedi, a dal yn siapio pwy ydw i heddi. Rwyf yn ffocysu’n fawr ar weithio tuag at gymuned hollol gynhwysol heb ots am hil, rhyw, cred neu rywioldeb ac wrth gofio nôl i brotestiadau 2020, cawsant effaith anferth ar ein byd ni, ar waith gwrth-hiliol a phrofiadau pobl du.
Credaf mai’r peth pwysicaf wrth sôn am brotestiadau 2020 yw’r naratif o’u hamgylch. Sut ydyn ni fel gwlad yn myfyrio arni, yn ein hamgueddfeydd, dosbarthiadau ysgol ac wrth drafod gyda theulu a ffrindiau? Yn bwysicach byth, mae’r naratif yn dylanwadu ar holl agweddau bywyd, e.e. yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol, wrth i ni edrych ar sut y mae’r protestiadau yn cael eu cofio, gellir gweld bod sawl haen gymhleth. Erbyn heddiw mae ideolegau eithafol gyda phlatfform i amledu ei neges, a'i thrais. Oherwydd hynny yn fy marn i credaf ei fod yn bwysig i gofio ac i ddathlu’r protestiadau a'u chanlyniadau wrth barhau i alw am welliannau.
Mae amgueddfeydd yn hollbwysig wrth edrych nôl ar y protestiadau ac unrhyw ran o hanes. Erbyn nawr, mae placardiau yn cael ei arddangos yn amgueddfa Sain Ffagan er mwyn cofio’r protestiadau, gan sicrhau bod y protestiadau yn cael eu cofio a bod ei neges byth yn cael ei hanghofio. Dathlodd Amgueddfeydd Cymru, lleisiau Du er enghraifft yng Nghaerdydd mis diwethaf yn y Deml o Heddwch ac Iechyd, ac mae arddangosfa newydd ei lansio.
Ers 2020 mae nifer o gynlluniau gan Lywodraeth Cymru wedi ei chyflwyno gyda’r nod o gyrraedd Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, targed sydd yn fy marn i yn fwy amhosib na’r targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae rhaid cydnabod y gwahaniaeth rhwng peidio bod yn hiliol a bod yn wrth-hiliol. Er mwyn fod yn wrth-hiliol mae’n rhaid cydnabod yr hiliaeth o sydd o amgylch, ei heffaith a’i galw allan, sydd yn gam pellach na pheidio bod yn hiliol. Mae ARWAP, sef, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn amlinellu'r llwybr o gyrraedd gwlad wrth-hiliol gan strwythuro’n glir y camau priodol.
Yn y byd addysg, sydd yn berthnasol i nifer ohonom, sefydlwyd DARPL (Diversity and Anti-racism Professional Learning) gyda’r nod o addysgu, cefnogi athrawon a hyrwyddo agweddau gwrth-hiliol. Yn fy ysgol i mae grŵp o ddisgyblion wedi dod ynghyd i sefydlu cymdeithas o’r enw Balch, sydd yn cefnogi disgyblion ac athrawon gyda hiliaeth a gwrth-hiliaeth tra bod grwpiau tebyg ledled y wlad yn gwneud gwaith tebyg.
Gyda chyflwyno’r cwricwlwm newydd, mae pwyslais nawr ar drafod hanes pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ysgolion. Gall hyn sicrhau profiad addysg iach i bobl ifanc Cymru, yn well na gwersi o ddim gwerth sy’n cael eu cynnal ar hap, gan amlaf yn ystod Mis Hanes Pobl Du.
Pwysigrwydd Cynefin - Cwricwlwm i Gymru
Mae cynrychiolaeth a modelau rôl amrywiol yn hollbwysig i bobl ifanc, nid yn unig o gefndiroedd Mwyafrif Byd Eang ond i bawb gan sicrhau bod pawb yn cael eu gweld. Hoffwn ffocysu ar fodelau rôl gadarnhaol o fewn y byd y Gymraeg. Tra bod diffyg athrawon o gefndiroedd mwyafrif byd eang yn broblem barhaus mae buddsoddiadau a grantiau yn debygol o arwain at newid hir dymor positif.
Ar y llaw arall, yn y cyfryngau mae unigolion fel Sage Todz, Mirain Iwerydd, Dom James, Lloyd Lewis ac ati yn cynnig cynrychiolaeth gyfoethog ar draws nifer o blatfformau.,yn enwedig Lily Beau sydd ers y protestiadau wedi cyflwyno fideo pwerus gan drafod ei phrofiadau bywyd wrth dyfu lan fel Cymraes ddu ifanc.
Wrth gwrs mae’n rhaid cydnabod yr effaith ryngwladol sydd yn anodd ei mesur. Mae trais yn parhau, ac wrth imi dyfu lan rwyf yn deall ac yn fwy ymwybodol o’r hiliaeth rwyf yn wynebu. Fel bachgen Du ifanc hil gymysg, rwyf yn pryderu am y tro cyntaf bydd yr heddlu yn fy stopio, am gerdded yn rhai ardaloedd, am deimlo petai fi’n perthyn gan gofio am yr holl anghyfiawnderau sydd wedi bod. O Stephen Lawrence i George Floyd, Breonna Taylor, Ahmaud Arbery, a nifer eraill: y rhai byddwn byth yn anghofio a'r protestiadau rwyf yn obeithiol y byddwn ni’n cofio am flynyddoedd i ddod. Ymhellach na hynny, am byth.
Am wybod sut gall y coleg eich cefnogi chi neu rywun rydych yn ei adnabod? Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy am ein Cynllun Sbarduno.