Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Erin: Defnyddio'r Gymraeg yn y Coleg ac adre

ADD ALT HERE

Defnyddio’r Gymraeg yn y coleg ac adre

Fy enw i yw Erin Stephens a dwi’n astudio Iechyd a Gofal Lefel 3 yng Ngholeg Penybont.
Dewisais i Iechyd a Gofal gan fy mod yn edrych am lwybr tuag at Nyrsio neu Gofal yn y gymuned neu gwaith gyda plant ifanc a mae’r cwrs yma yn cynnig hyn i mi. Mae’r cwrs trwy  gyfrwng y Saesneg sydd wedi bod yn wahanol iawn i mi ar ôl mynd i ysgol Gymraeg ers yn dair mlwydd oed. 

O ni dal eisiau defnyddio’r Gymraeg gan ei fod yn bwysig i gadw fy sgiliau Cymraeg. Felly wrth ddechrau y cwrs yma, o ni yn ddiolchgar o pa mor gefnogol oedd staff adran Gymraeg y coleg i mi. Mae nhw bob amser yn dod o hyd i ffyrdd i ni ddefnyddio’r Gymraeg yn y ddosbarth a trio annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein gwaith ac aseiniadau, a gwneud slides dwyieithog. Mae sleidiau dwyieithog ar gael ym mhob gwers sydd yn help mawr.

Dwi wedi bod yn mynychu gweithgareddau yn y coleg sydd yn hybu’r Gymraeg fel, Diwrnod Shwmae, Santes Dwynwen a Dydd Gwyl Dewi. Dwi hefyd yn gwirfoddoli mewn nosweithiau a diwrnodau agored ac yn hapus i siarad Cymraeg gyda rhieni a disgyblion y dyfodol. Dwi’n ddiolchgar am hyn gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi gadw ac ymarfer fy Nghymraeg. Wrth astudio Iechyd a Gofal dw i wedi dysgu pa mor bwysig yw hi i gyfathrebu yn Gymraeg, nid dim ond i agor drysau i mi, ond mae’n helpu unigolion sydd angen help mewn lleoliadau Iechyd a Gofal. Mae’n bwysig eu bod yn cael eu clywed yn ei hiaith ei hunain a chael opsiwn o siarad Cymraeg bob tro. 

Mae hefyd yn bwysig i ddeall a gwybod sut i helpu pobl i deimlo yn fwy cyfforddus a hyderus pan mae nhw angen help. Felly gobeithio yn y dyfodol byddaf yn gallu helpu pobl yn y gymuned a defnyddio fy sgiliau Cymraeg. Gobeithio wir y gallaf fynd i’r Brifysgol a gwneud rhan o fy astudiaeth yn y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn bwysig i fi.

Dwi’n edrych ymlaen nawr at gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd dros yr wythnosau nesaf. Dwi’n aelod o gôr Cymraeg sy’n rhoi cyfleoedd i mi gymdeithasu yn y Gymraeg a chystadlu. Ces i’r fraint o fynd i’r Bala gyda’r Urdd ar gwrs Merched mewn Miwsig felly mae cyfleoedd diri yn bodoli i wneud defnydd o’r Gymraeg o hyd.