Skip to main content Skip to footer
6 Mai 2025

Blog Ffion - llysgennad

ADD ALT HERE

Shwmae! 
Ffion dw i a dw i’n astudio cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol lefel 3 yng Ngholeg Penybont, fel rhan o’r cwrs mae’n rhaid i ni ymgymryd â 2 leoliad dros y 2 flwyddyn.

Gyda fy lleoliad, es i nôl i fy ysgol gynradd!

Dewisais fynychu ysgol gynradd Gymraeg i weithio mewn uned arbennig ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol. Dw i’n credu ei fod e mor bwysig bod nhw’n cael yr un cyfleoedd â phlant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac yn gallu parhau i dderbyn addysg trwy’r Gymraeg beth bynnag yw eu hanghenion.

Mae’r lleoliad yma wedi galluogi i mi greu perthnasau da gyda’r disgyblion, mynd ar rai tripiau gyda’r dosbarthiadau e.e.. i’r pwll nofio, diwrnod pontio BL5 i’r ysgol gyfun leol, a datblygu perthnasau agos gyda’r staff o fewn yr ysgol.


Dw i wedi dysgu llawer am sut i addysgu plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Dw i mor ddiolchgar fy mod i wedi cael y cyfle i fynd i’r ysgol yma ar leoliad, dw i wir wedi mwynhau ac wedi cael y cyfle i ddefnyddio fy sgiliau Cymraeg yn reolaidd. Cyn i mi wneud y profiad gwaith, roeddwn i’n sicr fy mod i eisiau mynd i weithio o fewn y sector gofal, ac efallai i’r GIG, ond mae’r profiad yma wedi gwneud i fi ystyried mynd i weithio o fewn y byd addysg yn lle.

Yn dilyn y lleoliad, dw i wedi cofrestru gydag asiantaeth gyflenwi a dw i’n gobeithio dechrau gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar ôl y Pasg yn rhan amser. Yna, efallai blwyddyn nesaf byddaf yn parhau yn yr ysgol er mwyn cael bach mwy o brofiad cyn penderfynu pa sector hoffwn i weithio ynddi yn y dyfodol.