Fy Sgiliau dwyeithog a fy nyfodol!
Trystan ac Emma, Huw Stephens, Alex Jones. Dwi’n siwr eich bod chi gyd yn gyfarwydd â’r enwai hyn. Ond be sy’n gyffredin rhwng y pedwar ohonynt? Mae nhw gyd yn gyflwynwyr llwyddiannus o Gymru sy’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Hawdd yw credu mai’r unig ffordd o gyrraedd llwyfan y cyfryngau fel dinasyddion Cymry yw i gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. Profa ei sgiliau dwyieithog ei bod yn gallu cyflwyno’n Gymraeg ar S4C neu’n Saesneg ar un o rhaglenni teledu fwyaf poblogaidd ar sianel y BBC Un, y One Show. Er ei bod hi’n sereni ar y sianeli rhyngwladol drwy gyfrwng y Saesneg, nid yw hyn yn ei rhwystro rhag gyflwyno rhaglenni, fel ei rhaglen diweddar ar ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a rhannu ei hangerdd dros y frwydr.
Jac Morgan, Ben Davies, Nia Jones ac Elinor Snowsil. Athletwyr rhyngwladol, ysbrydoledig, telentog, sy’n mynnu defnyddio’r iaith ar faesydd chwaraeon. Mae chwaraeon yn lwyfan sy’n cael ei ddarlledu’n rhyngwladol ac felly mae ei defnyddio fel llwyfan i ledu’r iaith a’i phwysigrwydd i’r Cymry.
Mae bod yn gyflwynwraig yn freuddwyd i mi gan fod gymaint o fy arwyr wedi deillio o ddechrau ar gyfresu teledu a mi fydd yn fraint i mi ddefnyddio fy sgiliau dwyeithog yn cyflwyno rheglenni gwahanol ar y cyfryngau. Mae’n bwysig i mi i gael cenhedlaeth newydd ifanc i ddefnyddio eu sgiliau dwyeithog a’u bod yn defnyddio nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth ond ar y maesydd chwaraeon, llwyfannau cerddorol a.y.y.b. Mae bod yn ddwyeithog yn hynod o bwysig wrth fagu hyder yn enwedig i mi nawr wrth fentro i’r brifysgol lle bydd yn profi’n ddefnyddiol wrth i mi allu gyfathrebu gyda phawb boed yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae bod yn llysgennad ysgol wedi effeithio ar fy hyder mewn modd cadarnhaol iawn wrth i mi gyflwyno o flaen disgyblion o ysgolion gwahanol sy’n fudd i mi wrth ystyried fy nyfodol. Credaf bod y gallu i siarad yn ddwyieithog yn fraint a ni ddylwn gymryd yn ganiataol ein gallu sy’n arbennig i ni yng Nghymru.
Felly defnyddiwch yr iaith. Dysgwch yr iaith. Mae’n fudd ymhlith y maesydd ddaw yn ystod eich gyrfa a’ch dyfodol. Ein arwyr sy’n dangos y ffordd, ni sydd angen dilyn y drefn newydd! Ymfalchiwch yn yr hun sy’n unigryw i ni fel Cymry.