Skip to main content Skip to footer
30 Mai 2024

Defnydd y Gymraeg yn y Gwyddorau

ADD ALT HERE

Dyma Gwenllian, un o’n llysgenhadon ôl-radd sy’n derbyn ysgoloriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trafod defnydd y Gymraeg yn y Gwyddorau.

Gwenllian ydw i, dwi'n astudio PhD yn y gwyddorau amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac am gyflwyno fy nhraethawd yn y Gymraeg.

Cysyniad dieithr yn aml yw cysylltu’r Gymraeg gyda’r gwyddorau, ond y gwrthwyneb i hwn yw fy mhrofiad i. Cefais fy annog i astudio trwy’r Gymraeg yn ystod fy ngradd israddedig er gwaethaf peidio astudio’r gwyddorau yn yr iaith o’r blaen.

Ar y cychwyn, roedd hi’n anodd meddwl am drafod cysyniadau gwyddonol heb sôn am gyflwyno gwaith academaidd yn y Gymraeg. Ond drwy gymorth y darlithwyr, teimlais lawer mwy hyderus nag erioed yn gwneud y pethau hyn yn fy mamiaith. Yn sydyn iawn, roedd cyfathrebu gwyddoniaeth yn haws gan fy mod i mor gyfforddus gyda’r iaith. A dwi’n ymwybodol iawn mai dewis astudio trwy’r Gymraeg wnaeth agor y drws i wneud PhD i mi. Mae dal yn anodd medru darganfod y termau allweddol cywir, yn enwedig adnoddau darllen ac adolygu Cymraeg, ond dwi nawr yn ymwybodol iawn o’r cymorth sydd ar gael o fewn y brifysgol i'n cynorthwyo.

Mae dewis defnyddio’r Gymraeg ym maes Bioleg wedi agor fy llygaid i’r ystod o ymchwil sy’n digwydd yma.

Mae’r iaith wrth wraidd ymchwil diddorol, gyda geiriau Cymraeg yn ymddangos o fewn sawl darganfyddiad cyffrous! Gyda rhywogaeth o ffwng anaerobig o’r enw Buwchfawromyces eastonii wedi’i ddarganfod o fewn ysgarthion byfflo, yn ogystal â Myxococcus llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogochensis; sef rhywogaeth o myxobacteria sydd yn byw yn y pridd o gwmpas yr ardal. Yn ôl y sôn, dyma yw’r enw hiraf yn ôl cyfundrefn enwau binomaidd!

Mae’r cymorth i astudio’r gwyddorau yn yr iaith yn cynyddu. Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn esiampl berffaith o hybu diddordeb a gwybodaeth o fewn y gwyddorau amgylcheddol trwy’r Gymraeg.

Mae’r iaith yn plethu ei hun yn berffaith fel sail i waith ac ymchwil academaidd o ansawdd dda. Gyda'n gwyddonwyr yn barod yn arwain y ffordd, gydag anogaeth bellach pwy a ŵyr beth fydd gwyddonwyr Cymraeg y dyfodol yn ei gyflawni!