Skip to main content Skip to footer
13 Rhagfyr 2024

Blog Gwenno - Astudio a Cymdeithasu yn y brifysgol

ADD ALT HERE

Helo! Fy enw i yw Gwenno ac rwy’ newydd orffen fy mlwyddyn gyntaf yn astudio’r Gymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r flwyddyn wedi hedfan, a ‘dwi’n teimlo fy mod wedi cael amser gorau fy mywyd, astudio peth, a chymdeithasu gormod, a’r cwbwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Astudio

Un o fy hoff bethau am astudio yma yng Nghymru yw’r cyfle i astudio fy nghwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amlwg, caiff y cwrs Cymraeg ei ddysgu’n gyfan gwbl yn y Gymraeg, ond ‘dwi hefyd wedi bod yn ysgrifennu fy nhraethodau Hanes yn Gymraeg, ac wedi mynychu seminarau Cymraeg. Mae’r grwpiau seminar hyn yn llai, ac yn gyfle gwych i ddod i adnabod pobl eraill sy’n rhannu, nid yn unig yr un diddordebau astudio a chi, ond hefyd yr un cefndir a diwylliant. Heb os, mae fy sgiliau Cymraeg yn well o lawer na fy sgiliau Saesneg, felly roedd hi’n rhyddhad enfawr cael cwblhau fy ngwaith i gyd yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus i fi.

Cymdeithasu

Un o’r penderfyniadau gorau ‘nes i oedd aros mewn llety i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Rwy’ wrth fy modd yn llety Senghennydd yn gwneud popeth- o gael gossip fach ar ford y gegin i gymryd y biniau allan yn wythnosol, yn fy iaith gyntaf. 

Rwy' hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Gymraeg, neu’r Gymgym, yng Nghaerdydd, lle ‘dwi di joio mas draw (a chreu ffŵl o’n hunan ambell waith!) yn y crôls ar nosweithiau Fercher. Ond, rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi oedd cael mynychu’r Ddawns a’r Eisteddfod Ryng-golegol, sy’n gyfleoedd gwych i ddod i adnabod hyd yn oed mwy o bobl wrth i fyfyrwyr o bob Prifysgol yng Nghymru gasglu mewn un lle i gymdeithasu yn y Gymraeg. Ma’ hi bendant werth ymuno a’r Gymdeithas Gymraeg ym mha bynnag Brifysgol y’ch chi’n mynychu – credwch chi fi, ‘newch chi ddim difaru gwneud!

Cyfle gwerthfawr arall rwyf wedi ei dderbyn fel myfyriwr Cymraeg yw’r cyfle i ymuno â chôr aelwyd y Waun Ddyfal, sydd wedi bod yn brysur iawn eleni yn cystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru ac Eisteddfod yr Urdd, heb sôn am ganu mewn ambell gyngerdd adeg y Nadolig a Dydd Gŵyl Dewi. Yn sicr, mae cyfleoedd cyfrwng Cymraeg diddiwedd ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio mewn Prifysgol yng Nghymru, beth bynnag yw eich diddordeb- o ganu i chwaraeon.