Haia! Fi yw Gwenno, un o Lysgenhadon Prifysgol y Coleg eleni. Fi’n teimlo fel ‘sen i ‘di elwa gymaint o’r holl brofiadau fi ‘di derbyn gyda’r Coleg dros y flwyddyn ddiwetha, a’n frwd i annog gymaint o bobl â phosib i ymgeisio am y cyfle flwyddyn nesaf!
Un o’r profiadau gore oedd y cyfle i gymryd rhan yn ‘Takeover Triban’ yr Urdd eleni, a phostio lluniau a fideos o’r ŵyl ar sosials y Coleg. Ma’ ‘da fi ddiddordeb mawr mewn dilyn gyrfa yn y cyfryngau yn y dyfodol, ac felly teimlaf y bu’r profiad yma’n werthfawr dros ben i mi.
Cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a rhywbeth bach ychwanegol i’w roi ar y CV!
Cefais i hefyd y cyfle i weithio mewn digwyddiadau fel Tafwyl a Ffair UCAS Casnewydd eleni. Unwaith eto, roedd y rhain yn gyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu, gwaith tîm ac yn y blaen, tra'n joio ar yr un pryd! Ac, wrth gwrs, mi oedden nhw hefyd yn gyfleoedd i ennill bach o arian ychwanegol – sy’ wastad yn handi i fyfyrwyr!
Cefais hefyd y cyfle i gwrdd â’r Llysgenhadon eraill ym mis Ebrill, wrth i nifer ohonom fynd i aros yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog am noswaith. Cawson ni sesiwn groeso i ddod i ‘nabod pawb, cyn cael cymryd rhan yn rhai o’r gweithgareddau, a wedyn mynd lawr i’r pentref am beint yn y nos – fe wnaeth pawb joio mas draw!