5 Tip i wneud cais am Ddeintyddiaeth
Dyma ychydig o bethau i chi ystyried cyn gwneud eich cais gan rhywun sy’n mynd trwy’r broses rwan.
Profiad Gwaith
Trefnwch brofiad gwaith digonol mewn llawer o amgylcheddau gwahanol e.e.
- Practis cyffredinol- gyda deintyddion, deintyddion hylendid, neu ddeintyddion therapi
- Practis preifat,
- Orthodontics,
- Clinigau gofal eilaidd neu mewn ysbytai deintyddol
Cofiwch fod unrhyw brofiad gwaith yn brofiad da, a nodwch unrhyw ddigwyddiadau cofiadwy i lawr er mwyn sôn amdanynt yn eich datganiad personol neu gyfweliadau.
Ymuno â Chynllun
Dysgais lawer am y byd deintyddol ar y cynllun ‘SEREN’, gan ymgyfarwyddo’n hun a ‘hot topics’ a digwyddiadau cyfoes sy’n wych i’w trafod mewn cyfweliad. Mae cynllun ‘Deintyddion yfory’ hefyd yn rhoi cymorth gwych i ddarpar ddeintyddion sy’n paratoi at wneud cais.
*Mae pawb sy’n cymryd rhan yn gymwys am gyfweliad yng Nghaerdydd!*
UCAT
Mae’r UCAT yn anodd! Defnyddiais i’r wefan Medify er mwyn amseru fy atebion ond mae nifer o adnoddau gwych am ddim ar lein ar eu gwefan. Sicrhewch hefyd i fwynhau’r haf! Ychydig yn aml yw’r ffordd i lwyddo a gweld cynnydd yn eich sgôr.
Datganiad Personol
- Defnyddiwch eich profiadau, ond yn bwysicach, dywedwch beth ydych wedi ei ddysgu ohonynt.
- Defnyddiwch safonau’r GDC er mwyn profi fod gennych y rhinweddau delfrydol er mwyn bod yn ddeintydd da.
Cyfweliadau
- Os ydych yn llwyddiannus am gyfweliad, llongyfarchiadau!
- Byddwch yn chi eich hun.
- Ystyriwch ddarllen erthyglau cyfoes er mwyn bod yn gyfarwydd â’r newyddion deintyddol diweddara.
- Cofiwch son os ydych yn poeni am siarad Saesneg, bydd y cyfwelwyr yn deall os yw’r Saesneg yn ail iaith i chi ac yn trio eu gorau i’ch helpu os ydych yn cael trafferth cyfieithu.
- Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfweliadau dwy-ieithog felly sicrhewch eich bod yn gwneud cais am un os y byddwch yn fwy cyfforddus yn y Gymraeg.
- Gwenwch!
Os nad ydych yn llwyddiannus y tro cyntaf, peidiwch digalonni. Mae’r broses ymgeisio i wneud gradd mewn deintyddiaeth yn un o’r rhai mwyaf cystadleuol. Gallwch ymgeisio eto’r flwyddyn olynol neu ymchwilio i yrfaoedd tebyg fel therapi, hylendid neu nyrs ddeintyddol.