Skip to main content Skip to footer
24 Tachwedd 2025

Blog Gwenno - Patagonia

ADD ALT HERE

Eleni, derbyniodd deg myfyriwr sy’n astudio’r Gymraeg yng Nghaerdydd ysgoloriaeth i ymweld â chymuned Gymraeg Patagonia. Roeddwn i’n ddigon ffodus i fod ymhlith y deg – a, rhaid dweud, hwn oedd un o brofiadau gorau fy mywyd!

Yn ystod ein cyfnod yno, treulion ni bythefnos yn Nyffryn Camwy, cyn teithio dros y paith i Gwm Hyfryd ar gyfer ein pythefnos olaf. Er bod y dirwedd, y diwylliant, ac arferion y bobl yn hollol anghyfarwydd i ni, roedden ni’n teimlo yn gartrefol ar unwaith- diolch i’r croeso cynnes gawson ni gan drigolion y Wladfa.

Mynychon ni lu o ysgolion, gwersi oedolion, a chlybiau sgwrsio yno, ac roedd hi’n brofiad hynod ysbrydoledig cael clywed y Gymraeg yn ffynnu ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn. 
Er hyn, uchafbwynt y profiad i mi oedd gweld y plant yn yr ysgolion yn ymarfer ar gyfer Eisteddfod Pobl Ifanc y Wladfa. Yng nghanol yr holl ganu, adrodd, a dawnsio gwerin, roedd hi’n anodd credu fy mod i ym mhen draw’r byd o Gymru, yng nghanol yr Ariannin!

Gwnaeth y profiad hedfan heibio, a chyn pen dim roedd hi’n amser hedfan yn ôl i Gymru fach i adrodd yr hanes i’n teuluoedd a’n ffrindiau. Yn sicr, ces i brofiad sbeshal iawn, a byddwn i wrth fy modd i allu mynd yn ôl yno rhywbryd eto pe bawn i’n cael y cyfle.

Fy nghyngor i unrhyw fyfyriwr arall fyddai – gwnewch y mwyaf o bob cyfle a ddaw! Byddwch chi yn eu trysori nhw am weddill eich oes!

llun patagonia
llun p