Bwrsariaeth Dr Llŷr Roberts
Mi fues i’n ofnadwy o ffodus i gael cyfle arbennig i ymweld â Phatagonia am fis a hanner dros yr haf (2024). Diolch yn fawr iawn i Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a theulu Dr Llŷr Roberts am y cyfle a’r gefnogaeth. Byddwn i’n sicr yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb i ymgeisio am yr ysgoloriaeth yma i fynd amdani. Rwy yn fy ail flwyddyn yn astudio Cymraeg ac mae’r profiad wedi bod yn hynod o fuddiol i fy astudiaethau.
Roeddwn ni’n lwcus iawn i gael rhannu’r profiad â dwy o fy ffrindiau sy’n astudio Cymraeg, oedd yn braf iawn. Glaniodd ein awyren yn Buenos Aires, prif ddinas yr Ariannin, yma mae’n bosib dal hediadau mewnol yr Ariannin. Penderfynom dreulio ychydig ddyddiau yma cyn dechrau gwirfoddoli mewn ysgolion a gwersi Cymraeg ym Mhatagonia. Mae hi’n ddinas anferth, aethom ar fws twristaidd i geisio gweld gymaint a phosib mewn cyfnod byr gan ymweld ag ardaloedd gwahanol a mwynhau’r awyrgylch a chaffis. Roedd pensaernïaeth yr adeiladau yn anhygoel, yn debyg i Baris mewn mannau a modern mewn llefydd eraill. Aethom i fynwent enwog Recoleta, roedd yn rhyfeddol gweld beddi mor dal â thai, hefyd cerddoriaeth fyw a marchnad yn y fynwent. Buon ni hefyd yn gwylio gêm rygbi'r Ariannin yn erbyn Awstralia!

Cawsom ni’n tair groeso gwresog yng Ngaiman ac ar ein diwrnod cyntaf fe gawson ni asado, gwledd genedlaethol yr Ariannin, maent yn falch iawn ohono. Darn o gig wedi ei goginio’n araf dros dân agored yw asado. Mynychom wasanaethau Gŵyl y Glaniad yng Nghapel Bryn Crwn, Gaiman a Chapel Moraia, Trelew; roedd hyn i nodi yr un dyddiad y 28 o Orffennaf, 159 mlynedd ynghynt gwnaeth y Cymry lanio ar dir Patagonia am y tro cyntaf. Roedd y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a Sbaeneg ac roedd yn brofiad difyr dros ben. Cawsom fynd i dŷ te ‘Tŷ Gwyn’ gyda phobl leol a chael croeso arbennig. Mae tai te yn Gaiman ac yn Nhrevelin yn atyniadau Cymreig i dwristiaid.
Buom yn gweithio yn ysgolion cynradd Cymraeg dalgylch Gaiman, sef Ysgol Gymraeg y Gaiman ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew. Synnwyd y dair ohonon ni gan allu a lefel Cymraeg y plant – roedd yn wych! Roedd gwir awydd i ddysgu Cymraeg ac i ddathlu Cymreictod a’r diwylliant ac roedd canu, llefaru a dawnsio gwerin yn rhan bwysig o strategaeth caffael yr iaith yno. Gwirfoddolom mewn gwersi Cymraeg yn ysgolion y wladwriaeth, sef Ysgol Gynradd Bryn Gwyn ac Ysgol Uwchradd Aliwen. Hefyd yng Ngholeg Camwy, ysgol uwchradd ddwyieithog ble mae Cymraeg yn cael ei gynnig fel pwnc. Ar ôl bod yn yr ysgol yn y bore roeddem ni’n mynd i ddosbarthiadau Cymraeg yn y prynhawn a fin nos gan gyfrannu i wersi i oedolion yn Rawson, Trelew, Gaiman, Dolavon a chlwb sgwrsio Trelew.


Tra roedden ni yno, cynhaliwyd Eisteddfod Porth Madryn, oedd drwy gyfrwng y Gymraeg a Sbaeneg ac fe gawson ni fynd yno i gael blas. Ymwelom ni a nifer o gapeli Cymraeg yno. Mae afon Camwy yn eiconig iawn ac yn symbol o obaith yno gan mai dyma’r afon ffrwythlonodd y tir yn wreiddiol wedi llawer o lafur gan y Cymry cyntaf. Wnes i wir fwynhau yn Gaiman, yn arbennig oherwydd fy mod i’n teimlo wedi setlo a gwneud ffrindiau gyda phobl oedd yn byw yno a chymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg yr un oed a ni.
Wedi pythefnos yn Gaiman teithiom ni dros y paith i Drevelin a threulio pythefnos pellach yno. Gwirfoddoli yn Ysgol y Cwm oedden ni yn Nhrevelin; ysgol gynradd sydd â dosbarthiadau uwchradd newydd. Roedden ni hefyd yn helpu mewn dosbarthiadau Cymraeg i oedolion ar lefel mynediad ac uwch a chlwb sgwrsio Cymraeg yng Nghanolfan Gymraeg Esquel ac yn Nhrevelin. Aethom i ymarferion côr yn Esquel a dawnsio gwerin yn Nhrevelin. Fe gawson ni wylio Eisteddfod ysgolion Trevelin; roedd y cystadlu mewn Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg.
Dros y penwythnos fe aethom ar drên stêm i Nahuel Pan, sef pentref pobl frodorol yr ardal. Hefyd aethom ni am dro i weld rhaeadrau Nant y Fall. Roedd hi’n aeaf yn yr Ariannin a ninnau’n aros ynghanol mynyddoedd yr Andes, aethom ar ‘gadair esgyn’ yng nghanol y mynyddoedd a’r eira i fwynhau’r golygfeydd. Cwm Hyfryd yw’r enw arall ar ardal Trevelin a Esquel ac yn ddiamheuaeth mae hi’n hynod hardd yno. Mae’r mynyddoedd yn dalach nag unrhyw beth dwi wedi ei weld o'r blaen. Ar ddiwedd ein cyfnod yn gwirfoddoli fe dreuliom ni ddeuddydd yn ymlacio yn Bariloche, tref hardd iawn ger y llynnoedd a’r mynyddoedd.
Roedd gweld gymaint o ymfalchïo yn y diwylliant Cymraeg yn arbennig; fel rhywun sy’n dod o gymuned ble mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol, sylweddolais fy mod i’n gallu cymryd yr iaith yn ganiataol i raddau. Roedd hi’n ddifyr iawn gweld diwylliant Cymraeg wedi ei blethu â diwylliant Archentaidd. Dysgais lawer o dechnegau dysgu a chaffael iaith hefyd fydd yn ddefnyddiol iawn i mi at y dyfodol.
Roedd y profiad i gyd yn wych, roedd hi’n fraint cael ymweld â’r cymunedau a phrofi croeso mor wresog ac yn anhygoel clywed y Gymraeg mewn lle mor bell a gwahanol i Gymru. Roeddwn wrth fy modd â thafodiaith Patagonia, mae eu Cymraeg mor dlws a dylanwad y Sbaeneg yn hyfryd.
Mae’n anodd iawn dewis llond llaw o uchafbwyntiau ond dyma roi blas. Mi wnes i wir fwynhau ein parti gadael ni’n tair yn Ysgol Gymraeg y Gaiman pan roedd pawb yn canu caneuon Cymraeg yn hamddenol i gyfeiliant gitâr. Roedd gwasanaeth Gwŷl y Glaniad Coleg Camwy a Chapel Bryn Crwn yn arbennig iawn. Uchafbwynt arall oedd siarad â’r oedolion oedd eisiau dysgu Cymraeg a chlywed eu rhesymau dros ddysgu. Roedd y storïau hyn yn emosiynol – am ddioddefaint cymdeithasol eu rhieni a achosodd i’w rhieni beidio trosglwyddo’r Gymraeg iddynt. Roedd cymdeithasu a siarad Cymraeg gyda phobl ifanc yr un oed â ni oedd wedi byw yn Gaiman ar hyd eu hoes hefyd yn uchafbwynt.