Blog Hannah - Tafwyl 2024
Mae’n gyfnod gwyliau unwaith eto – fy hoff gyfnod o’r flwyddyn! Er fy mod i wrth fy modd yn mynychu amrywiaeth o wyliau Cymraeg dros yr haf, rhaid dweud mai Tafwyl yw fy ffefryn!
Mae rhywbeth arbennig am ŵyl mor fyrlymus yn cael ei chynnal yn y ddinas dwi wedi tyfu lan ynddi, a bod yn dyst i’w datblygiad dros yr holl flynyddoedd. Dwi wedi mynychu Tafwyl ers y dyddiau cynnar yn nhafarn y Mochyn Du, ac yn sicr eleni yw’r prysuraf dwi wedi’i gweld!
Ond, cefais brofiad cwbl wahanol yn Nhafwyl eleni, gan fy mod wedi gweithio fel rhan o dîm Llais y Maes gydag ysgol newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Roedd y profiad yn un hynod werthfawr wrth i mi greu cynnwys digidol o’r ŵyl. Cefais gyfle i ohebu ar amrywiaeth o straeon a chyfweld â llwyth o bobl difyr, gan gynnwys Eden – ‘headliners’ Tafwyl ar y nos Sul!
Roedd hi’n hynod wobrwyol gweld yr eitemau terfynol yn dod at ei gilydd a’n cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn y broses hir o gynllunio, cyflwyno, cyfweld a golygu. Rwyf wedi elwa cymaint o’r profiad, ac rwy’n hynod ddiolchgar i JOMEC Cymraeg am y cyfle!
Er bod Llais y Maes yn brofiad newydd i mi yn Nhafwyl eleni, dydy rhai pethau byth yn newid – fel y cymdeithasu! Roedd hi’n hyfryd dal lan gyda theulu a ffrindiau drwy’r penwythnos. Cwmni da, cerddoriaeth dda, bwyd da! Beth mwy sydd angen mewn bywyd? Ac wrth gwrs, parhau a wnaeth y cymdeithasu ar ôl Tafwyl, drwy orffen y penwythnos yng Nghlwb Ifor Bach!
Mae’n anodd credu bod Tafwyl wedi mynd a dod am flwyddyn arall. Ond yn y cyfamser dwi’n edrych ymlaen at wyliau Cymraeg eraill dros yr haf, yn enwedig yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd!