Skip to main content Skip to footer
25 Medi 2024

Blog Hollie

ADD ALT HERE

Roeddwn i'n lysgennad ysgol i'r Coleg Cymraeg yn Ysgol Rhydywaun yn 2023-24. Fe gefais i amrywiaeth o brofiadau felly dyma gwpl o enghreifftiau:

 

Tafwyl

Roedd Tafwyl yn benwythnos anhygoel ac roedd y profiad o weithio ar stondin y Coleg wedi ychwanegu at hynny heb os! Er fy mod i’n dal i ffeindio glitter arnaf nawr, roeddwn i’n dwli ar weld hapusrwydd y plant gyda’r glitter ar eu hwynebau. Cefais i’r cyfle i gyfweld â Gwilym ei hun ac Anniben, felly profiad cofiadwy iawn!

 

Takeover

Mae takeovers yn ffordd hwylus i rannu’ch profiadau ar gyfryngau wrth reoli cyfrif Coleg Cymraeg am y diwrnod. Mor braf oedd ateb cwestiynau pawb a rhannu fy mhrofiad wrth ymweld â Phrifysgol Abertawe.

 

Blogiau

Dyma gyfle i ysgrifennu a chodi ymwybyddiaeth am destunau rydych chi’n angerddol amdano. Er enghraifft, mwynheuais i sgwennu am lenyddiaeth a’i manteision ond os nad ydych yn siŵr mae cymaint o awgrymiadau i helpu chi benderfynu ar destun fel fy mlog arall, tips iechyd meddwl.

 

Fideos 

Os ydych chi’n well ar lafar, gallech chi greu fideos yn hyrwyddo’r iaith neu gyfleoedd sydd ar gael. Mae rhyddid creadigol gennych ac yn bersonol mwynheais olygu’r fideos i’w greu yn fwy difyr i wylio. Fy hoff fideo cynhyrchais oedd yn codi ymwybyddiaeth mewn ffordd hwylus yn Florida, UDA wrth i Americanwyr dyfalu ystyr geiriau Cymraeg. Nes i fideo TikTok hefyd efo Mari, llysgennad arall yn fy ysgol am ysgoloriaeth y Coleg, tips mynd i brifysgol a llawer mwy!

 

Nes i a Mari hefyd wneud hysbysfwrdd y Coleg yn ein ysgol. Gallech chi weithio hefyd gyda’r Coleg wrth iddynt ymweld â’ch ysgol a rhannu’ch profiad gyda’ch cyd disgyblion.

Felly fel y gallech weld mae cymaint o amrywiaeth fel llysgennad ysgol! 

Llun hysbysfwrdd y Coleg Cymraeg yn yr ysgol