Dros y ddwy flynedd diwethaf mae fy marn ar y Gymraeg wedi newid yn sylweddol. Dwi’n cofio eistedd mewn dosbarth yn ceisio pasio fy TGAU ail iaith. Mae llawer wedi newid ers llynedd.
Nawr, dwi’n teimlo fel rhan o deulu, o gymuned, o'r byd newydd. Mae'r byd yn newid i'r dyfodol - dwi'n dechrau chwilio am waith yn y Gymraeg, gwirfoddoli i'r digwyddiadau mwyaf ayyb. Yn enwedig fel ddysgwyr neu berson ail iaith mae hyn yn frawychus achos mae'n anodd credu ynoch chi'ch hun. Unwaith y byddwch chi'n sylweddoli cymaint o Gymraeg sydd ym mhobman bydd yn newid eich byd.
Er nad ydw i'n astudio'r Gymraeg yn y brifysgol ar hyn o bryd na hyd yn oed yn llawn trwy'r Gymraeg yn yr ysgol byddaf yn ceisio gorffen prosiectau a modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi’n credu yn gryf fod iaith yn cael ei dysgu trwy brofiad.
Felly pwynt fy mlog yw mynd i fyw eich bywyd gorau OND yn Gymraeg. Gwrandewch ar y podlediad, gwyliwch y ffilm, ewch i'r cyngerdd, archwiliwch y diwylliant a'r hanes hardd sydd gan Gymru i gynnig.
Joe Llysgennad YsgolMae dysgu Cymraeg yn brofiad sy'n eich newid chi fel person - mae'n fwy na jyst iaith, mae'n ffordd o fyw.