Skip to main content Skip to footer
29 Gorffennaf 2025

Blog llysgennad: Ffion Traylor

ADD ALT HERE

Shwmae!

Ffion dw i, a dwi yn lysgennad Cymraeg yng Ngholeg y Cymoedd! Dwi’n astudio Cynhyrchu Cyfryngau (Ffilm a Theledu) Lefel 3.
Ers bod yn ferch ifanc dwi wedi dwli ar bopeth ffilm a theledu. Ac wedyn pryd oedd e’n amser i fi fynd i’r coleg, a meddwl am beth oeddwn i eisiau gwneud yn y dyfodol nes i ffeindio’r cwrs yma yng Ngholeg y Cymoedd.

Trwy’r ddwy flynedd ar y cwrs yma dwi wedi cael amser anhygoel yn gweithio ar brosiectau newydd a chreu ffilmiau byr. Mae’r cwrs yma wedi dysgu fi llawer am gynhyrchiad ffilm a theledu a gadael i fi archwilio fy rhyddid creadigol. O’r prosiect cyntaf nes i yn 2023 i fy mhrosiect olaf nes i wythnos diwethaf yn 2025, gallwch chi weld gwahaniaeth mawr yn fy ngwaith.

Yn haf 2024 wnes i a 3 o bobl eraill ar fy nghwrs gystadlu yn yr Eisteddfod. Wnaethon ni greu dogfen am Tiktok a’r effeithiau ar bobl ifanc. Wnaethon ni ennill y wobr gyntaf!

Dwi hefyd wedi cael profiad gwaith dros yr haf efo ‘It’s My Shout’. Roedd hwnna yn brofiad gwych a nes i gael cysylltiadau hanfodol bydd yn gallu helpu fi yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Os ydych chi yn rhywun sydd yn trio dechrau gyrfa yn y diwydiant hwn mae gwneud profiad efo ‘It’s My Shout’ yn rhywbeth dylech chi edrych mewn iddo.

Blwyddyn nesaf dwi’n mynd i astudio yn Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn neud yr un cwrs ond yn lefel 4. Gobeithio byddai’n cael mwy o brofiad gwaith ac efallai gweithio yn y diwydiant trwy’r cyfle hwn.

Os ydych chi yn y diwydiant ffilm a theledu, fy LinkedIn yw Ffion Traylor a fy Instagram yw @framedbyffionn.