Profiad Gwaith
Rwyf wedi cael pedwar diwrnod gwerthfawr tu hwnt o brofiad gwaith gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu swyddfa yng Nghaerfyrddin. Cefais y cyfle i gael blas ar bob elfen o waith y sefydliad, drwy gael cyfarfodydd a derbyn cyflwyniadau gan unigolion gwahanol, a meithrin sgiliau newydd drwy gwblhau tasgau hefyd.
Dewisais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel sefydliad er mwyn cwblhau fy mhrofiad gwaith gan y teimlais y byddai’n rhoi trosolwg eang o’r mathau o swyddi a’r gwaith amrywiol sydd ar gael mewn sefydliadau sydd yn ymwneud â’r Gymraeg. Ar hyn o bryd, rwyf yn fy mlwyddyn olaf yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd cael gwneud fy mhrofiad gwaith gyda’r Coleg wedi rhoi agoriad llygad imi o’r math o yrfa y gallwn ei dilyn yn y dyfodol, a dangosodd bod modd gwneud pob math o swyddi ymhob math o feysydd, gyda gradd yn y Gymraeg.
Yn ystod fy nghyfnod o brofiad gwaith, cefais sawl sgwrs werthfawr iawn gan wahanol aelodau o dîm y sefydliad. Roedd hi’n ddiddorol gweld yr ystod amrywiol o rolau oedd ganddynt, a sylweddoli, er eu bod oll yn gweithio i un sefydliad, roedd cyfrifoldebau pob un ohonynt yn hollol gyferbyniol.
Un o brif rolau’r Coleg yw cydweithio ag amryw o lysgenhadon, mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau addysg bellach. Sylweddolais anferthedd y gwaith a wnânt er mwyn ceisio hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y byd addysg, ac annog myfyrwyr a darpar-fyfyrwyr i ddewis astudio cymaint â phosibl o’u cyrsiau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hi'n wych gweld eu bod yn pwysleisio gwerth a phwysigrwydd y Gymraeg i bobl ifanc, drwy ddigwyddiadau megis ffeiriau gyrfaoedd, a thrwy wneud cyflwyniadau hwyliog mewn ysgolion.
Mae hi’n anhygoel fod cymaint o ysgoloriaethau gan y Coleg i’w cynnig i bobl ifanc. Ynghyd â’r Brif Ysgoloriaeth a'r Ysgoloriaeth Cymhelliant, mae gan y Coleg hefyd ystod o ysgoloriaethau ychwanegol ar gyfer myfyrwyr penodol, er mwyn cefnogi eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ddi-os, gallaf dystio fel myfyrwraig, fod pob ceiniog yn cyfri pan fyddwch chi yn y brifysgol, a byddai’r ysgoloriaethau hyn yn cynnig yr hwb ychwanegol sydd ei angen i allu gwario ar adnoddau er mwyn cefnogi eich astudiaethau gradd, ac wrth gwrs er mwyn sicrhau ychydig o arian ychwanegol ar gyfer gallu mwynhau a chymdeithasu hefyd!
Rwy’n hynod ddiolchgar o’r cyfle a gefais i gyd-weithio â gwahanol unigolion o’r Coleg a chael mewnwelediad eang tu hwnt o waith y sefydliad yn ystod fy nghyfnod profiad gwaith. Cefais groeso cynnes gan bawb, ac roeddent yn fwy na pharod i drafod eu rolau a’u cyfrifoldebau yn drylwyr. Mae’r wythnos hon wedi rhoi blas o fywyd gwaith mewn sefydliad proffesiynol, ac wedi ehangu fy nealltwriaeth o waith y Coleg Cymraeg, ac o’r llwybrau gyrfa posibl y gallwn eu dilyn yn y dyfodol!