Mae cymaint o ffactorau pam fod aros yng Nghymru i fynd i’r Brifysgol yn gallu bod yn iawn i chi.
Fel fan hyn yn Aberystwyth. Er bod modd astudio amrywiaeth o bynciau’n rhannol neu’n gyfan-gwbl trwy’r Gymraeg, fel y Gyfraith neu Amaeth, mae bywyd tu fas i’r ‘stafelloedd darlitho – yr ochr lawn sbort, gallech chi ddweud – yn cynnwys yr un faint o gyfleoedd i fod yn fyfyriwr cyfrwng Cymraeg.
Mae UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abersywtyth – yn llenwi eich calendr gyda digwyddiadau (o ddifri, chi’n cael calendr ar ddechrau’r flwyddyn). Pob mis, mae noson o Sŵn yn cael ei chynnal, ble mae thema benodedig yn galluogi i bawb wisgo lan, cymdeithasu, a mwynhau miwsig Cymraeg. Wedyn mae gennych chi gerrig milltir yn eich amserlen gymdeithasol, fel y Ddawns Ryng-golegol, ble mae’r Undebau Myfyrwyr Cymraeg i gyd dros Gymru’n cwrdd i ddawnsio, cymdeithasu, creu ffrindiau newydd...
Mae gennych chi Neuadd Bantycelyn, sydd hyd y top gyda myfyrwyr Cymraeg o bob oedran, o bob cwr o’r wlad, sydd â’r un bwriad â chi – i ymgartrefu mewn lle diethr llawn dieithriaid. Ond y gwahaniaeth yw bod rhywbeth gennych chi gyd yng gyffredin: chi’n siarad Cymraeg. Rwy’n dweud y gwir pan rwy’n dweud y byddech chi’n synnu pa mor rhwydd chi’n gallu cyfarwyddo gyda phobol os eich bod yn rhannu rhywbeth mor sylfaenol ag iaith.
A dydw i ddim yn gwerthu Prifysgol Aberyswtyth yn unig fan hyn (wel, efallai’n bennaf), oherwydd bod unrhyw le yr ydych yn penderfynu astudio ynddo yng Nghymru yn mynd i deimlo fel gartref. Mae’r un mor bwysig ystyried y bywyd cymdeithasol ag ydyw’r bywyd gweithio o fyfyriwr.