Helo, fy enw i yw Rhys Thomas Pinder dwi'n astudio amaethyddiaeth yng ngholeg Llysfasi. Rwyf yn 17 mlwydd oed ac yn dod o ganolbarth Cymru.
Ers i fi fod yn blentyn ifanc rwyf wedi astudio trwy'r Gymraeg ac i fod yn onest efo chi rwyf yn caru’r ffaith fy mod yn ddwyieithog, fy mod yn gallu siarad yn Gymraeg ac yna newid i Saesneg mor hawdd a fel " click of my fingers" yn ardderchog.
Yn fy marn i mae cynllun y Coleg Cymraeg yn wych. Wrth siarad Cymraeg, mae'n bosibl i chi ymgysylltu'n haws gyda phobl sy'n siarad yr iaith ac ymgysylltu â'r gymuned Gymraeg yn ehangach. Mae'n rhoi cyfle i chi ymuno â chlybiau, grwpiau cymdeithasol, a chynghorau cymunedol lle gallwch rannu eich diddordebau a'ch profiadau.
Yn ogystal â datblygu cysylltiadau cymdeithasol, mae siarad Cymraeg yn gallu bod yn fanteisiol i'ch gyrfa. Yn y gweithle, mae'r ddawn o allu siarad Cymraeg yn gallu creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach rhwng staff. Gall hyn helpu i hybu gwaith cryf a chynyddu teimladau o bartneriaeth a chydweithredu o fewn y tîm.
Mae defnyddio'r Gymraeg yn cynnig manteision sylweddol i'r unigolyn, y tîm, a'r sefydliad yn ei chyfanrwydd. Gan annog cyfathrebu effeithlon, cysylltiadau cymdeithasol cryfach, a dyfodol gweithle gadarn, mae'r Gymraeg yn hanfodol i ffyniant economaidd a chymdeithasol ein cymunedau.
Maen rhaid i fi bod yn hollol onest dwi ddim yn hollol siŵr pa ffordd dwi'n meddwl mynd ar ôl Coleg ar y funud rwyf yn edrych ar Brifysgol Harper Adams yr unig peth brawychus yw y ffaith am y tro cyntaf yn fy mywyd fydd rhaid i fi astudio trwy'r Saesneg ond fydd rhaid croesi y bont yna ar y pryd am wan fyddai yn barhau i astudio trwy'r gyfrwng Gymraeg a mwynhau.
Diolch a hwyl am y tro Rhys.