Skip to main content Skip to footer
30 Mai 2024

“Dyw hi byth yn rhy hwyr i wneud PhD!”

ADD ALT HERE

Dyma Sally, llysgennad ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhannu ei phrofiad o fod yn fyfyrwraig aeddfed. 

Dyw hi byth yn rhy hwyr i wneud PhD, ac weithiau mae profiad helaeth o weithio ar lawr gwlad ym maes eich ymchwil yn gallu bod yn fanteisiol.

Dw i newydd droi'n 50, ac ar ôl gweithio ym myd addysg am dros bum mlynedd ar hugain fel athrawes y Gymraeg, tiwtor Cymraeg i Oedolion, Swyddog Datblygu'r Gymraeg ym Mhatagonia a Swyddog Iaith Mudiad Meithrin, dw i nawr yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe yn cwblhau doethuriaeth! Pa ffordd well o ddathlu troi'n hanner cant!

Mae fy ymchwil yn ceisio dod o hyd i’r arferion gorau mewn cylchoedd Meithrin wrth drochi plant yn y Gymraeg, i sicrhau caffaeliad iaith effeithiol, a chreu siaradwyr hyderus.

Wrth astudio, dw i hefyd yn parhau i weithio ychydig o oriau bob wythnos fel Swyddog Iaith Mudiad Meithrin, ac mae hynny'n sicrhau fy mod i'n gwybod am yr holl ddatblygiadau a newidiadau diweddaraf sydd yn digwydd yn y blynyddoedd cynnar ac ym myd addysg

Dw i wrth fy modd yn astudio, a dw i wedi cwrdd â nifer o fyfyrwyr aeddfed eraill, ond dim ond rhif yw oedran!

Mae'r myfyrwyr eraill mor gefnogol i'w gilydd, beth bynnag yw eu hoedran. Mae jyglo dyletswyddau teuluol, swydd ac astudio yn gallu bod yn heriol ar adegau, ond dw i'n lwcus bod gennyf rwydwaith cymorth cryf, sy'n cynnwys cydweithwyr, ffrindiau a theulu sy'n gefnogol iawn. Dw i hefyd yn cael fy nhywys gan bedwar goruchwyliwr profiadol iawn, ac mae gan bob un ohonynt eu meysydd arbenigol, sy'n cyfoethogi fy mhrofiad i fel myfyrwraig.

Ers dechrau ar fy noethuriaeth, dw i wedi manteisio ar nifer o gyfleoedd i fynychu cyrsiau gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn gwella a chryfhau fy sgiliau ymchwil. Mae'r cyrsiau wedi fy ngalluogi i drafod fy ngwaith ymchwil gyda myfyrwyr ac academyddion eraill, a hynny wrth gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n holl bwysig i fi.

Ces i'r fraint o ennill y gystadleuaeth poster yn y Gynhadledd Ymchwil y llynedd, ac mae gwneud pethau fel dylunio posteri a chreu fideos am fy ngwaith ymchwil wedi helpu gwella fy sgiliau technoleg gwybodaeth yn sylweddol.

Dw i'n edrych ymlaen at gwblhau'r gwaith maes yn fuan iawn, a dw i'n gobeithio bydd fy nghanlyniadau a darganfyddiadau yn gallu helpu ymarferwyr er mwyn hwyluso eu gwaith yn y dyfodol.

Mae fy ngwaith ymchwil yn holl bwysig er mwyn sicrhau ein bod ni'n cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yng ngoleuni targed Llywodraeth Cymru, sef creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Byddwn i'n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cwblhau gradd, cwrs ôl-raddedig neu ddoethuriaeth, beth bynnag yw eich oedran, i fynd amdani! Dyma'r penderfyniad gorau dw i erioed wedi'i wneud.