Helo! Seamus dw i, ac rwy’n astudio Dieteteg ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
Ar y cwrs rydym ni’n dysgu llawer am glefydau a beth sy’n eu hachosi, sut maen nhw’n datblygu a rôl maeth wrth eu trin a’i hatal. Hefyd rydym ni’n dysgu sut i wella cyfathrebu, sy mor bwysig pan fyddwn ni’n esbonio pethau i gleifion o unrhyw oedran, cefndir ac yn y blaen.
Fy hoff beth ar y funud yw mynd i’r clinig ar y campws. Mae’n gyfle gwych i allu dod i adnabod sut mae popeth yn gweithio mewn amgylchedd clinigol, mewn awyrgylch hamddenol. Hefyd mae’n gyfle da i siarad gyda chleifion, gweithwyr proffesiynol, a myfyrwyr eraill sydd ar gyrsiau gwahanol, sy’n helpu gyda fy natblygiad proffesiynol a rhyngbroffesiynol.
Mae defnyddio’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn yng ngofal iechyd, rydyn ni’n clywed yn aml sut mae’r Gymraeg yn gwella profiadau cleifion sy’n siarad yr iaith. Mae’n bosibl gwneud rhai o fodiwlau’r cwrs israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn grêt! Yn anffodus, does ‘na ddim cyfle ar y cwrs ôl-raddedig, ond mae llwythi o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, fel yn y clinig, ar leoliadau, gyda’r dystysgrif sgiliau iaith neu fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg.
Baswn i'n awgrymu i bobl sydd eisiau astudio gradd iechyd i gymryd rhan mewn cymaint o weithgareddau ag sy’n bosib, mae’n naturiol i fod yn nerfus, ond does dim rhaid i ti fod yn berffaith y tro cyntaf!