Skip to main content Skip to footer
29 Gorffennaf 2025

Blog Sofia Earles: Stigma ynglŷn â'r Gymraeg yn ein harddegau

ADD ALT HERE

Stigma ynglŷn â'r Gymraeg yn ein harddegau

Oeddech chi'n tyfu i fyny yn teimlo cywilydd wrth siarad Cymraeg? Os felly, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae llawer o oedolion a phlant ifanc wedi mynegi pa mor feirniadol y gall cymdeithas ac eraill eu hoedran fod ynglŷn â siarad y Gymraeg, hyd yn oed rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg! Mae hyn wedi bod yn broblem ers cenedlaethau ac rwy'n credu bod angen gwneud rhywbeth i dorri'r cylch.

Welsh Not

Yn ystod y 19eg ganrif roedd plant ysgol yn cael eu cosbi am siarad Cymraeg trwy orfod gwisgo plac pren am eu gwddf os oeddent yn cael eu dal, roedd llawer hefyd yn cael eu cosbi'n gorfforol! Roedd hyn yn achosi i'r plant deimlo cywilydd ac ofn siarad iaith eu gwlad. Roedd hyn yn atal y defnydd o'r Gymraeg ac mae effeithiau negyddol hyn yn dal i effeithio ar y Gymraeg hyd heddiw.

Barn gymdeithasol

Mae llawer o blant wedi tyfu i fyny yn dweud wrth eraill sydd yr un oed ei bod hi “ddim yn cwl" siarad Cymraeg, boed hyn gartref, ymhlith ffrindiau neu yn gyhoeddus. Gall cael eu magu mewn cartref sy'n siarad Cymraeg achosi i rai blant deimlo cywilydd ac ofni gwawd gan nad yw'n "normal", a gall achosi iddynt deimlo fel rhywun o'r tu allan. Oherwydd diffyg clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn gyhoeddus mae'n achosi i blant fod eisiau ffitio mewn trwy siarad Saesneg fel pawb arall o'u cwmpas.

Cymunedau a Chymorth

Er fod rhai pobl ifanc weithiau yn teimlo cywilydd wrth siarad Cymraeg, mae yna gymunedau a digwyddiadau sy'n annog y defnydd o'r Gymraeg! Yr Eisteddfod yw'r digwyddiad mwyaf, ond mae yna lawer mwy fel Tafwyl a Ffilifest, a mudiadau fel yr Urdd a'r Coleg Cymraeg sydd i gyd yn hynod galonogol a chefnogol ar y defnydd o'r Gymraeg!

I gloi, rwy'n gobeithio, mae darllen hwn wedi eich helpu i deimlo'n balchder dros yr iaith a peidiwch bod ofn cael eich gweld a'ch clywed. Cofiwch, byddwch yn rhan o'r ateb ac nid yn rhan o'r broblem!