Mae cynllun Sbarduno’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr 16-19 oed o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifol ethnig sydd am dderbyn cefnogaeth gan fentor i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i feithrin eu hyder.
Pan gododd y cyfle i fod yn rhan o’r Cynllun Sbarduno - ro’n i' gyffrous i ymuno. Roedd yn gyfle gwych i mi rannu fy nhaith a fy mhrofiad bywyd hyd yn hyn gyda myfyriwr ifanc yn y chweched ddosbarth a oedd ar ddechrau ei siwrne. Mae bod yn berson ifanc rhwng 16-18 oed yn gallu bod yn heriol, yn academaidd ond hefyd yn feddyliol, felly nesi gynllunio sesiynau addas o amgylch hyn.
Roedd y sesiynau yn cael eu cynnal ar-lein, ac roeddwn i’n edrych ymlaen atynt oherwydd roedd gen i lawer mewn cyffredin gyda’r myfyriwr cefais i fy mhario gyda. Mae’r ddwy ohonom yn caru chwaraeon, ac rydym hefyd o gefndiroedd Cymraeg a Jamaicaidd felly roeddwn i’n gallu rhannu ein profiadau o fod yn perthyn i gymuned leiafrifol ethnig a'r ffaith ein bod yn falch iawn o hynny.
Un o’r prif bynciau roeddwn yn eu trafod oedd sut i ymdopi gyda straen. Mae gymaint o straeon ar bobl ifanc y dyddiau yma, felly roeddwn i’n falch ein bod wedi llwyddo adeiladu perthynas dda a oedd wedi gwneud iddi deimlo’n ddigon cyfforddus i rannu ei phryderon gyda mi. Roedd yn ddiddorol clywed y tebygrwydd a’r gwahaniaethau yn ei phrofiadau i gymharu pan oeddwn i yn yr ysgol, ac roedd yn braf gallu cynnig cyngor ar wahanol sefyllfaoedd.
Summer AllwoodRoedd bod yn fentor yn bwysig i mi er mwyn bod yn rhan o’r newid i gael mwy o fodelau rôl Cymraeg o gefndiroedd amrywiol.
Trafodom hefyd y wahanol opsiynau sydd ar gael ar ôl gadael yr ysgol - sef mynd i'r brifysgol neu goleg addysg bellach, gwneud prentisiaeth, neu fentro i’r byd gwaith. Fe wnaethom drafod y manteision i’r opsiynau amrywiol, a’r cyfleoedd sydd ar gael wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Dwi mor falch cefais i’r cyfle i fod yn rhan o’r cynllun yma fel mentor oherwydd mae cael modelau rôl Cymraeg o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn bwysig iawn achos mae’n gwneud i bawb deimlo'n rhan o'r gymuned Cymraeg. Hefyd mae gweld bobl sy’n edrych yn debyg i chi mewn rolau arwain yn eich ysgogi i wneud yr un peth. Roedd bod yn fentor felly yn bwysig i mi er mwyn bod yn rhan o’r newid.
Credaf fod Cynllun Sbarduno yn wych. Mae’n rhoi cyfle prin i fyfyrwyr drafod gydag unigolion proffesiynol o gefndiroedd amrywiol trwy gyfrwng y Gymraeg, i’w cefnogi i gyrraedd eu potensial. Dwi'n gyffrous i fod yn rhan o’r cynllun eto'r flwyddyn nesaf ac rwyf yn annog un rhywun arall sy’n dymuno bod yn rhan o’r cynllun i fanteisio o’r cyfle i fod yn fentor.
Mae Cynllun Sbarduno yn cael ei gydlynu gan Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg. Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio am le fel myfyriwr neu fel mentor, cysylltwch ag Emily ar e.pemberton@colegcymraeg.ac.uk